Cofnodion Society of Friends
Dechreuodd George Fox, sylfaenydd Cymdeithas y Cyfeillion, bregethu tua 1647. Nid oedd gan y Cyfeillion, a adwaenwyd hefyd fel y Crynwyr, drefn weinidogaethol, ac mae trefn y mudiad yr un fath i bob hanfod â'r hyn a sylfaenwyd yn 1666.
Sir Drefaldwyn
Sir Faesyfed
|
|
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae pob cynulleidfa /cynulliad yn Gyfarfod Neilltuol (neu baratoadol); mae grwp o gyfarfodydd neilltuol yn ffurfio Cyfarfod Misol er dibenion gweinyddu; mae cyfarfodydd misol yn cyfuno i ffurfio Cyfarfod Chwarterol, sy'n ymwneud fwy â materion ysbrydol.
Yn olaf, ar lefel genedlaethol, mae Cyfarfod Blynyddol. Mae'r cofnodion ar y dudalen hon yn deillio o Gyfarfod Misol Henffordd a Chanolbarth Cymru.