Mapiau: Cofnodion Ymrwymiadau Statudol
Cynlluniau wedi'u Hadneuo o Ymgymeriadau Cyhoeddus (tua 1792-Dechrau'r 20fed Ganrif)
Pan gafodd camlas neu reilffordd ei chynllunio, roedd rhaid anfon map manwl o'r llwybr a gynigiwyd i Sesiynau Chwarter y sir dan sylw, er mwyn i'r cyhoedd allu ei weld mewn da bryd. Ni chafodd yr holl fentrau a gynigiwyd eu cwblhau. Mae'r mapiau hyn yn cynnwys llawer o wybodaeth, gan eu bod yn rhoi enwau perchnogion tir ar hyd y llwybr, ac maent yn dangos lociau, twneli, ayb. Fodd bynnag, dim ond stripedi cul ar hyd llwybrau'r fenter sydd wedi'u cynnwys ar y cynlluniau hyn.
Mae cynlluniau wedi'u hadneuo o ymgymeriadau cyhoeddus yn rhan o Gofnodion y Sesiynau Chwarter.