1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: Mae'ch bin gwastraff gardd ar y ffordd
Darllen mwy

Gwirfoddi i arddio gyda Chyngor Sir Powys

Oes gennych chi ddawn tyfu pethau?

A dawn cynllunio gardd?

Yma yn Archifau Powys mae angen help llaw arnom gyda'n gardd gerrig. Talp o glai di-fflach yw hi ar hyn o bryd. Mae'n wynebu tua'r de ac yn llygad yr haul trwy'r dydd. Mae gennym dipyn o arian i droi'r lle yn ardd fach ddel. Y drafferth yw, nid oes yr un ohonom ni yn gwybod sut i drin gardd, felly mae angen gwirfoddolwyr arnom.

Byddai hwn yn brosiect difyr i rywun sy'n gwybod eu planhigion, nad yw'n poeni am ychydig o waith caled. Byddai'n wych i rywun a fyddai'n cael hwyl wrth ddylunio gardd i ni.

Os yw hyn yn mynd â'ch bryd chi, byddem yn falch o glywed gennych!

Ymgeisiwch yma Gwnewch gais i wirfoddoli gydag Archifau Powys

 

 

 

 

gardening cym

 

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu