Gwirfoddoli i Gofnodi Sesiynau Llysoedd Chwarter gyda Chyngor Sir Powys
Mae gennym gofnodion yn mynd yn ôl mor bell â 1690. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth mawr o bynciau: o lysoedd sesiwn, pontydd, cau tiroedd i bwysau a mesurau; crwneriaid; tai tafarnau; ffyrdd; camlesi a rheilffyrdd.
Prosiect newydd sbon ac uchelgeisiol yw hwn. R'yn ni'n chwilio am wirfoddolwyr i fynd trwy flychau cofrestri llysoedd sesiwn yn drylwyr a diweddaru ein cofnodion o'r hyn sydd yno.
Dewch i wirfoddoli
- Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes lleol?
- Ydych chi'n drefnus ac yn medru gwneud gwaith yn fanwl gywir a gofalus?
- Ydych chi'n fodlon gweithio ar eich liwt eich hun?
- Ydych chi'n medru trin dogfennau brau'n ddibryder a hyderus?
- Ydych chi'n medru darllen hen lawysgrifen?
Ni fyddwch yn croesawu neu ymwneud â'r cyhoedd yn y swydd hon, nid yw'n waith blaen y tŷ. Gellwch ei gwneud unrhyw bryd yn ystod yr wythnos waith.
Gwnewch gais i wirfoddoli gydag Archifau Powys Gwnewch gais i wirfoddoli gydag Archifau Powys