Gwirfoddoli i estyn croeso a chyfarch gydag Archifau Powys
Beth sy'n mynd â'ch bryd chi?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes?
Ydych chi'n mwynhau cwrdd â phobl?
Dewch i wirfoddoli gydag archifau Powys
Rydym ni'n chwilio am bobl gyfeillgar sydd â diddordeb mawr mewn hanes ac sy'n hoffi cwrdd â phobl. Byddwch chi'n croesawu ymwelwyr i'r Archifau a'u helpu i ymgynefino.
Os ydych chi am rannu'ch diddordeb mewn hanes lleol neu hanes y teulu, cysylltwch â ni.
Byddai hwn yn gyfle gwych i bobl sydd am gael profiad o weithio gyda'r cyhoedd.
Gwnewch gais i wirfoddoli gydag Archifau Powys Gwnewch gais i wirfoddoli gydag Archifau Powys