Trefnu i gael copi o'n harchifau

Os ydych angen copiau o ddogfennau o'n harchifau ar gyfer gwaith ymchwil preifat, gallwch eu harchebu o Archifdy Powys. Efallai ni fyddwn yn gallu delio â cheisiadau am nifer fawr o ddogfennau, felly os ydych am gael nifer o ddogfennau, mae croeso i chi gysylltu â ni i weld os gallwn helpu.
Diwyg | Pris |
---|---|
Allbrint o'r cyfrifiadur | £1 yr un (a phris postio a phacio) |
Microffilm A4 /Allbrint fiche | Gofynnwch am fanylion |
Copiau digidol | Gofynnwch am fanylion |
Trwyddedau | Archebu copiau |
---|---|
Os hoffech chi dynnu lluniau camera o ddogfennau yn ein hystafell chwilio, bydd angen i chi brynu trwydded ffotograffiaeth a fydd yn caniatáu i chi dynnu lluniau at ddibenion ymchwil preifat. Dyma'r prisiau cyfredol ar gyfer ein trwyddedau:
| Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais am gopïau isod ac yna anfonwch hi atom yn y cyfeiriad sydd ar y dudalen hon. Ni fydd rhaid i chi anfon taliad gyda'r ffurflen byddwn yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i chi dalu cyn i ni anfon y copiau atoch. Gallwch dalu gydag arian parod, siec neu trwy ein Cyfleuster Talu Ar-lein |
Nid yw'r drwydded ffotograffiaeth yn caniatáu i chi atgynhyrchu, cyhoeddi nac arddangos ffotograffau digidol. I gael caniatâd i wneud hynny, lawrlwythwch y ffurflen ganiatâd isod a'i hanfon at y Prif Swyddog Amgueddfeydd ac Archifau yn Archifau Powys. Byddwn yn rhoi gwybod os gallwn roi caniatâd i chi, a byddwn yn rhoi gwybod i chi faint y bydd angen i chi dalu.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma