1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: taliadau gwastraff gardd wedi'u lleihau
Darllen mwy

'Amser Stori' Blynyddoedd Cynnar yn Llyfrgell Llandrindod!

Image cynrychioli 'Amser Stori' Blynyddoedd Cynnar yn Llyfrgell Llandrindod!
30 Ebrill 2018 

Image of branch librarian Lynda Simmons with her storytime toysGwahoddir rhieni plant cyn ysgol a meithrin i fynd i Lyfrgell Llandrindod ar gyfer sesiynau 'Amser Stori' hwyliog ac am ddim sy'n cael eu cynnal bob prynhawn Mercher rhwng 2pm - 3pm yn ystod tymor yr ysgol.  Mae'r sesiynau'n cynnwys adrodd storïau, canu caneuon, jig-sos a gweithgareddau byr i'r plant.

Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Portffolio ar faterion Llyfrgelloedd: "Mae llyfrgell y plant yn Llandrindod yn lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiad hwylus fel hyn. Mae'n darparu amgylchedd cadarnhaol a diogel gyda llyfrau a theganau ysgogol a lle hamddenol i blant archwilio byd straeon."

Mae croeso i rieni neu warcheidwaid gyda phlant bach, gofalwyr cyn-ysgol a darparwyr meithrin ddod i'r llyfrgell - wedi'i lleoli yn y Gwalia a llathenni i ffwrdd o barc hardd y Creigiau a chaffis lleol sy'n croesawu plant.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn www.powys.gov.uk/llyfrgelloedd ac ewch i 'ddod o hyd i fy llyfrgell'.

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu