'Amser Stori' Blynyddoedd Cynnar yn Llyfrgell Llandrindod!

30 Ebrill 2018 |
Gwahoddir rhieni plant cyn ysgol a meithrin i fynd i Lyfrgell Llandrindod ar gyfer sesiynau 'Amser Stori' hwyliog ac am ddim sy'n cael eu cynnal bob prynhawn Mercher rhwng 2pm - 3pm yn ystod tymor yr ysgol. Mae'r sesiynau'n cynnwys adrodd storïau, canu caneuon, jig-sos a gweithgareddau byr i'r plant.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Portffolio ar faterion Llyfrgelloedd: "Mae llyfrgell y plant yn Llandrindod yn lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiad hwylus fel hyn. Mae'n darparu amgylchedd cadarnhaol a diogel gyda llyfrau a theganau ysgogol a lle hamddenol i blant archwilio byd straeon."
Mae croeso i rieni neu warcheidwaid gyda phlant bach, gofalwyr cyn-ysgol a darparwyr meithrin ddod i'r llyfrgell - wedi'i lleoli yn y Gwalia a llathenni i ffwrdd o barc hardd y Creigiau a chaffis lleol sy'n croesawu plant.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn www.powys.gov.uk/llyfrgelloedd ac ewch i 'ddod o hyd i fy llyfrgell'.