1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad:Taliadau am gasglu gwastraff swmpus i godi
Darllen mwy

Polisi Gwaith Allanol Archifau

Cyflwyniad

Mae Swyddfa Archifau Sir Powys yn gweithredu yn unol â Datganiad Polisi a fabwysiadwyd gan Gyngor Sir Powys ar 18 Mehefin 1991. Mae'r datganiad hwn yn gofyn i Archifau'r Sir i:

  1. gael cofnodion sy'n ymwneud â gorffennol diwylliannol a hanesyddol Powys, a'u cadw a'u diogelu hwy yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  2. darparu mynediad cyhoeddus iddynt

Yn unol â chynlluniau strategol a bennir gan Gyngor Sir Powys, mae Archifau Powys yn cyfrannu tuag at flaenoriaethau'r Cyngor, sef:

  • Iechyd a gofal cymdeithasol integredig i oedolion
  • Plant a phobl ifanc
  • Trawsnewid dysgu a sgiliau
  • Cymunedau cryfach, mwy diogel a dichonadwy yn economaidd
  • Gwasanaethau cyhoeddus cytbwys yn ariannol ac yn addas i'r diben

Bydd y polisi hwn yn cael ei weithredu o fewn cyd-destun natur ddwyieithog y sir ac yn unol ag ymrwymiad Cyngor Sir Powys i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Fe fydd yn cael ei weithredu hefyd yn unol â Strategaeth Datblygiad Cynaliadwy'r Cyngor.

Nodau:

  1. Hyrwyddo a chynyddu mynediad at archifau
  2. Codi ymwybyddiaeth am Archifau Powys a'i swyddogaethau
  3. Hyrwyddo Archifau Powys fel adnodd ar gyfer dysgu
  4. Gwella ansawdd addysg disgyblion a myfyrwyr o bob oedran trwy'r defnydd priodol o'r archifau
  5. Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol

Amcanion:

  1. Annog cadw, cyfrannu ac adneuo archifau
  2. Cynyddu mynediad at yr archifau ac estyn y gymuned o ddefnyddwyr Archifau Powys yn lleol ac o bell
  3. Cynnal sgyrsiau a chreu arddangosfeydd
  4. Trefnu ac arwain ymweliadau grŵp i Archifau Powys, lle bo hynny'n bosibl
  5. Hyrwyddo Archifau Powys trwy gyfryngau argraffedig a darlledu
  6. Darparu adnodd addas at ddefnydd ystafell ddosbarth, lle bo hynny'n bosibl
  7. Cynnig hyfforddiant a chyngor ar y defnydd addysgol o ddogfennau
  8. Cefnogi athrawon i ddefnyddio deunydd archifol o fewn eu hystafelloedd dosbarth
  9. Cynnig cyngor a chyfarwyddyd i fyfyrwyr sy'n cynnal gwaith ymchwil
  10. Annog cysylltiadau rhwng Archifau Powys a sefydliadau allanol gan gydweithio gyda hwy ar brosiectau ar y cyd

Methodoleg

Sgyrsiau, Ymweliadau ac Arddangosfeydd

  • ymateb i geisiadau am ymweliadau ag Archifau Powys, o fewn a thu allan i oriau swyddfa arferol
  • ymateb i geisiadau i roi darlithoedd a sgyrsiau mewn lleoliadau yn rhywle arall, o fewn a thu allan i oriau swyddfa arferol
  • darparu arddangosfeydd bychain o ddogfennau gwreiddiol a/neu ddogfennau copi o fewn Archifau Powys ac mewn mannau eraill
  • cefnogi digwyddiadau megis Ffeiriau Hanes Lleol trwy gyflwyno arddangosfa a desg gymorth
  • trefnu Dyddiau Agored i'r cyhoedd lle bo hynny'n bosibl

 

Cynyddu mynediad at Archifau Powys dros y Rhyngrwyd

  • datblygu mynediad at gatalogau Archifau Powys ar-lein trwy ein catalog ar-lein a'n gwefan ein hunain, a gwefan Canolbwynt Archifau (Archives Hub).
  • Hyrwyddo Archifau Powys trwy gyfryngau argraffedig a darlledu
  • darparu datganiadau i'r wasg trwy Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus y Cyngor
  • darparu cyfweliadau ar gyfer y radio a theledu, a chyfryngau i'r wasg
  • cyhoeddi a dosbarthu cylchlythyr chwarterol
  • hwyluso'r defnydd o'r archifau o fewn prosiectau penodol gan sefydliadau darlledu a chwmnïau ffilmiau
  • ysgrifennu erthyglau i gylchlythyrau a chyfnodolion a gyhoeddir gan gymdeithasau hanes lleol a hanes teulu

 

Cydweithrediad a phartneriaeth gyda sefydliadau eraill

  • gweithio gyda Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Powys
  • gweithio'n gydweithredol gyda sefydliadau lleol, gan gynnwys grwpiau cymunedol a chymdeithasau lleol, ar brosiectau sydd o ddiddordeb i'w gilydd

 

Monitro a Gwerthuso

  • gofnodi darparu sgyrsiau ac ymweliadau a phresenoldeb yn y rhain
  • cofnodi darparu arddangosfeydd
  • cofnodi nifer yr ymweliadau â gwefan Archifau Powys
  • defnyddio'r ystadegau uchod i hysbysu cydweithwyr, aelodau etholedig a'r cyhoedd (trwy Adroddiad Blynyddol Archifau Powys), ynghyd â chyflwyno data blynyddol i'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus

 

Gellir sicrhau gwerthuso gweithgareddau gwaith allanol ac addysgol

  • trwy'r defnydd o holiaduron bodlonrwydd a ffurflenni sylwadau
  • trwy gasglu ac adolygu sylwadau yn unol â gweithdrefn Gwynion Cyngor Sir Powys
  • trwy adborth anffurfiol
  • trwy'r defnydd o grwpiau ffocws, fel sy'n briodol

 

March 2008

Reviewed 2011

Reviewed 2014

Reviewed 2018

For review 2021

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu