Polisi Gwaith Allanol Archifau
Cyflwyniad
Mae Swyddfa Archifau Sir Powys yn gweithredu yn unol â Datganiad Polisi a fabwysiadwyd gan Gyngor Sir Powys ar 18 Mehefin 1991. Mae'r datganiad hwn yn gofyn i Archifau'r Sir i:
- gael cofnodion sy'n ymwneud â gorffennol diwylliannol a hanesyddol Powys, a'u cadw a'u diogelu hwy yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- darparu mynediad cyhoeddus iddynt
Yn unol â chynlluniau strategol a bennir gan Gyngor Sir Powys, mae Archifau Powys yn cyfrannu tuag at flaenoriaethau'r Cyngor, sef:
- Iechyd a gofal cymdeithasol integredig i oedolion
- Plant a phobl ifanc
- Trawsnewid dysgu a sgiliau
- Cymunedau cryfach, mwy diogel a dichonadwy yn economaidd
- Gwasanaethau cyhoeddus cytbwys yn ariannol ac yn addas i'r diben
Bydd y polisi hwn yn cael ei weithredu o fewn cyd-destun natur ddwyieithog y sir ac yn unol ag ymrwymiad Cyngor Sir Powys i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Fe fydd yn cael ei weithredu hefyd yn unol â Strategaeth Datblygiad Cynaliadwy'r Cyngor.
Nodau:
- Hyrwyddo a chynyddu mynediad at archifau
- Codi ymwybyddiaeth am Archifau Powys a'i swyddogaethau
- Hyrwyddo Archifau Powys fel adnodd ar gyfer dysgu
- Gwella ansawdd addysg disgyblion a myfyrwyr o bob oedran trwy'r defnydd priodol o'r archifau
- Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol
Amcanion:
- Annog cadw, cyfrannu ac adneuo archifau
- Cynyddu mynediad at yr archifau ac estyn y gymuned o ddefnyddwyr Archifau Powys yn lleol ac o bell
- Cynnal sgyrsiau a chreu arddangosfeydd
- Trefnu ac arwain ymweliadau grŵp i Archifau Powys, lle bo hynny'n bosibl
- Hyrwyddo Archifau Powys trwy gyfryngau argraffedig a darlledu
- Darparu adnodd addas at ddefnydd ystafell ddosbarth, lle bo hynny'n bosibl
- Cynnig hyfforddiant a chyngor ar y defnydd addysgol o ddogfennau
- Cefnogi athrawon i ddefnyddio deunydd archifol o fewn eu hystafelloedd dosbarth
- Cynnig cyngor a chyfarwyddyd i fyfyrwyr sy'n cynnal gwaith ymchwil
- Annog cysylltiadau rhwng Archifau Powys a sefydliadau allanol gan gydweithio gyda hwy ar brosiectau ar y cyd
Methodoleg
Sgyrsiau, Ymweliadau ac Arddangosfeydd
- ymateb i geisiadau am ymweliadau ag Archifau Powys, o fewn a thu allan i oriau swyddfa arferol
- ymateb i geisiadau i roi darlithoedd a sgyrsiau mewn lleoliadau yn rhywle arall, o fewn a thu allan i oriau swyddfa arferol
- darparu arddangosfeydd bychain o ddogfennau gwreiddiol a/neu ddogfennau copi o fewn Archifau Powys ac mewn mannau eraill
- cefnogi digwyddiadau megis Ffeiriau Hanes Lleol trwy gyflwyno arddangosfa a desg gymorth
- trefnu Dyddiau Agored i'r cyhoedd lle bo hynny'n bosibl
Cynyddu mynediad at Archifau Powys dros y Rhyngrwyd
- datblygu mynediad at gatalogau Archifau Powys ar-lein trwy ein catalog ar-lein a'n gwefan ein hunain, a gwefan Canolbwynt Archifau (Archives Hub).
- Hyrwyddo Archifau Powys trwy gyfryngau argraffedig a darlledu
- darparu datganiadau i'r wasg trwy Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus y Cyngor
- darparu cyfweliadau ar gyfer y radio a theledu, a chyfryngau i'r wasg
- cyhoeddi a dosbarthu cylchlythyr chwarterol
- hwyluso'r defnydd o'r archifau o fewn prosiectau penodol gan sefydliadau darlledu a chwmnïau ffilmiau
- ysgrifennu erthyglau i gylchlythyrau a chyfnodolion a gyhoeddir gan gymdeithasau hanes lleol a hanes teulu
Cydweithrediad a phartneriaeth gyda sefydliadau eraill
- gweithio gyda Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Powys
- gweithio'n gydweithredol gyda sefydliadau lleol, gan gynnwys grwpiau cymunedol a chymdeithasau lleol, ar brosiectau sydd o ddiddordeb i'w gilydd
Monitro a Gwerthuso
- gofnodi darparu sgyrsiau ac ymweliadau a phresenoldeb yn y rhain
- cofnodi darparu arddangosfeydd
- cofnodi nifer yr ymweliadau â gwefan Archifau Powys
- defnyddio'r ystadegau uchod i hysbysu cydweithwyr, aelodau etholedig a'r cyhoedd (trwy Adroddiad Blynyddol Archifau Powys), ynghyd â chyflwyno data blynyddol i'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus
Gellir sicrhau gwerthuso gweithgareddau gwaith allanol ac addysgol
- trwy'r defnydd o holiaduron bodlonrwydd a ffurflenni sylwadau
- trwy gasglu ac adolygu sylwadau yn unol â gweithdrefn Gwynion Cyngor Sir Powys
- trwy adborth anffurfiol
- trwy'r defnydd o grwpiau ffocws, fel sy'n briodol
Mawrth 200
Wedi'i adolygu 2011
Wedi'i adolygu 2014
Wedi'i adolygu 2018
I'w adolygu 2021