Hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd i feicwyr modur

2 Mai 2018 |
Bydd cyfle i feicwyr modur ym Mhowys ddod yn feicwyr mwy diogel, diolch i gwrs diogelwch ar y ffyrdd.
Diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru, mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru'n cynnig cwrs 'Biker Down'.
Dros dair awr bydd y cwrs yn delio â phynciau megis rheoli ardal ddamwain, cymorth cyntaf brys a thynnu helmed a sicrhau eich bod yn cael eich gweld.
Bydd y cyrsiau'n digwydd ar ddydd Sadwrn ar 19 Mai, 21 Gorffennaf a 22 Medi yn Y Drenewydd ac ar 16 Mehefin, 11 Awst a 20 Hydref yn Llandrindod.
Hefyd, mae'r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd yn gallu cyflwyno'r cwrs 'Biker Down' i glybiau beicwyr modur.
Mae'r Uned hefyd yn cyflwyno'r cynllun 'Cerdyn Damwain' i unrhyw feiciwr modur sy'n defnyddio ffyrdd y sir. Mae'r cerdyn yn cynnwys manylion person y beiciwr modur ac yn cael ei gadw yn leinin yr helmed i'w ddefnyddio gan y gwasanaethau brys os bydd damwain.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae sicrhau bod ein ffyrdd ni'n ddiogel yn bwysig iawn i'r Sir. Byddem yn annog beicwyr modur i fanteisio ar y cynlluniau gwych hyn.
"Mae'r cyrsiau hyn mor bwysig gan eu bod yn cyflwyno'r sgiliau hanfodol a allai helpu i achub bywydau yn y pen draw."
Am wybodaeth ar y cynllun hwn, neu i gadw lle, cysylltwch â'r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01597 826979 neu ar e- bost road.safety@powys.gov.uk