Gwaith Ymchwil
Cyfle i weld rhai o'r erthyglau academaidd ac ymchwil gorau yn y byd ym maes gwyddoniaeth, technoleg, meddygaeth a mwy.
Gallwch gyrraedd yr holl erthyglau wrth fynd i 'Access to Research' ar gyfrifiaduron ein llyfrgelloedd cangen.
Gyda'r gwasanaeth hwn, gallwch weld amrywiaeth o erthyglau ac ymchwil academaidd o lyfrgelloedd cyhoeddus ar hyd a lles y wlad, a hynny am ddim. Mae hwn ar gael i bawb ac fe all fod o ddiddordeb mawr i fyfyrwyr addysg bellach, ymchwilwyr annibynnol a busnesau bach.
Ymhlith y pynciau ceir celf, pensaernïaeth, busnes, peirianneg, hanes, ieithoedd, gwleidyddiaeth, athroniaeth, mathemateg a'r gwyddorau.
Cofiwch y gallwch hefyd chwilio am waith ymchwil o fannau eraill, ond bydd rhaid i chi fynd i'r llyfrgell i ddefnyddio un o'n cyfrifiaduron i weld y cynnwys yn llawn
Dechrau chwilio am waith ymchwil
Contacts
Feedback about a page here