Gwasanaethau Ymchwil ac Astudiaethau Lleol
Mae gan bob un o lyfrgelloedd Powys rywfaint o ddeunydd diddordebau lleol yn ogystal â gallu defnyddio gwefannau Ancestry a Find My Past am ddim.
Am ymchwil manylach:
- mae casgliad astudiaethau lleol Brycheiniog yn Llyfrgell Aberhonddu,
- casgliad Maldwyn yn Llyfrgell Y Drenewydd ac
- mae rhywfaint o ddeunydd Maesyfed yn Llyfrgell Llandrindod,
- gydag ychydig yn Swyddfa Archifau Powys sydd â chofnodion lleol ac archifau ar gyfer Powys gyfan.
Gallwch ddod o hyd i lawer o'r casgliad Astudiaethau Lleol yng Nghatalog Llyfrgelloedd Powys. Gallwch fenthyg deunydd sydd wedi'u catalogio, neu os ydynt yn ddeunydd cyfeirio'n unig, gallwch eu gweld yn y llyfrgelloedd perthnasol.
Gallwch hefyd wneud ymchwil gan ddefnyddio ein darllenwyr microffilm a dulliau eraill i weld dogfennau hanesyddol ar microfiche. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau astudiaethau lleol y llyfrgell uchod.
A oes gennych wasanaeth ymchwil?
Os nad ydych yn gallu dod i mewn i'r llyfrgell, gallwn wneud gwaith ymchwil drosoch.
Ar gyfer gwaith ymchwil yn ymwneud â:
Sir Frycheiniog - cais ar-lein yma
Sir Drefaldwyn - cais ar-lein yma
Sir Faesyfed - gwnewch gais trwy Wasanaeth Ymchwil Archifau Powys
Rydym yn cadw copïau o gyfeirlyfrau masnach, papurau newydd, cyfnodolion a chyhoeddiadau hanes lleol. Gellir gweld rhagor o fanylion yma, gyda'r deunydd wedi'i rhestru yn Archifau Powys. Mae cyhoeddiadau Astudiaethau Lleol hefyd wedi'u rhestru yng nghatalog y llyfrgell.
Beth fydd hi'n costio a sut ydw i'n talu?
Bydd ceisiadau trwy'r post neu dros y ffon am y cofnodion a sut y gellir eu defnyddio ar gyfer ymchwil am ddim.
Costau ymchwil £20.00 am hanner awr (hyd at ddwy awr). Mae'n rhaid i chi dalu'r ffi hyd yn oed os nad oes unrhyw ganlyniadau positif o'r chwiliad. Os ydych angen rhagor o waith ymchwil ar ôl derbyn yr adroddiad cyntaf, gallwch wneud cais amdano yn yr un ffordd.
Rydym yn derbyn archebion post neu sieciau'n daladwy i Gyngor Sir Powys. Gallwch hefyd dalu ar-lein drwy Gyfleuster Taliadau Ar-lein Cyngor Sir Powys. Peidiwch â gwneud unrhyw daliadau tan fod y gwaith ymchwil wedi'i gwblhau.
Pa fath o chwiliadau y gallwch chi ei wneud?
Mae chwiliadau penodol megis chwilio am gofnodion ar ffurflenni cyfrifiad yn gyflym a ddiffwdan. Gellir gwneud chwiliadau hirach e.e. am ddigwyddiad neu leoliad penodol, neu chwiliad papur newydd ond efallai byddant yn cymryd yn hirach. Ni allwn ddelio gyda cheisiadau cyffredinol megis twf a datblygiad tref. Gall y Llyfrgellydd Cangen wrthod cais am chwiliad neu gyfyngu maint yr amser y gellir ei dreulio arno.
Sut allaf wneud cais?
Gallwch gyflwyno eich gofynion ymchwil trwy ffurflen gais ar-lein, neu llenwch y ffurflen a'i dychwelyd yn y post. Ni allwn ddechrau unrhyw ymchwil oni bai bod ffurflen gais wedi dod i law.
Sut allaf dderbyn y wybodaeth a pha mor hir y bydd hyn yn ei gymryd?
Pan fydd chwiliad wedi'i gwblhau byddwn yn anfon adroddiad, trwy e-bost neu drwy'r post, gan roi manylion y ffynonellau a wiriwyd a'r wybodaeth a ddarganfuwyd. Byddwn hefyd yn cynnwys y bil ar gyfer yr ymchwil. Ein nod yw ateb pob cais o fewn pedair wythnos.