Gwasanaethau'r cyngor a gynigir yn y llyfrgell
Mae eich llyfrgell leol hefyd yn darparu ystod o wasanaethau'r Cyngor. Nid yw pob un o'r gwasanaethau isod ar gael ym mhob llyfrgell. Gofynnwch i staff y llyfrgell am fanylion.
Gallwch;
- Talu eich Treth y Cyngor gyda cherdyn debyd neu gredyd
- Cael mynediad dros y ffon ac ar-lein i wasanaethau'r cyngor
- Casglu ffurflen gais am Fathodyn Glas a dilysu eich dogfennau
- Cyfle i gael sganio a dilysu eich prif ddogfennau ar gyfer eich cais am Fudd-dal Tai
- Casglu ffurflen gais am Drwydded Bws a dilysu eich dogfennau. Ac yn ein llyfrgelloedd mwy - Aberhonddu, Crughywel, Llandrindod, Llanidloes, Machynlleth, y Drenewydd, y Trallwng, Ystradgynlais - gellir prosesu eich cais am drwydded bws ar gownter y llyfrgell, yn cynnwys tynnu eich llun.