Aelodaeth Plant
![]() | Mae rhywbeth i bawb yn Llyfrgelloedd Powys! 'Sdim eisiau i chi boeni am y plant a'r babanod yn gwneud difrod i lyfrau! Mae llyfrau bwrdd yn gadarn iawn ac ry'n ni'n deall y bydd rhywfaint o draul! |
Babanod a phlant bach
Mae dewis eang o lyfrau Cymraeg a Saesneg yn eich llyfrgell - i'w mwynhau gan fabanod a phlant bach:
- llyfrau bwrdd
- llyfrau lluniau
- llyfrau sbonc a chodi fflap
- llyfrau rhigymau
- llyfrau'r wyddor a chyfrif
- llyfrau ar liwiau, siapiau a phatrymau
- llyfrau stori
Gallwch fenthyg storïau ar dapiau neu CD's a DVD's o rai llyfrgelloedd. Hefyd mae llyfrau ar ofal plant a sgiliau rhianta ar gael i'w benthyg.
Gweithgareddau i blant bach
Mae nifer o'n canghennau ni'n cynnal sesiynau rhigwm a stori i fabanod a phlant bach - edrychwch ar dudalen eich cangen leol a dewch i gymryd rhan!
Cynllun aelodaeth i blant
Gallwch chi neu'ch plentyn ymuno â'r llyfrgell yn syth. Bydd rhaid i riant neu warcheidwad wneud cais ar ran plentyn dan 14 oed. Bydd angen i ni weld rhyw fath o ID - e.e. cerdyn banc neu drwydded yrru - ond cysylltwch â ni os fydd hynny'n broblem. Dyna'r cyfan sydd angen ei wneud! Beth am ymuno a dechrau mwynhau?
Defnydd o gyfrifiaduron gan blant dan 16
Rhaid cael caniatâd rhieni ar blant dan 16 oed sydd am ddefnyddio'r cyfrifiaduron cyhoeddus. Os ydych chi'n awyddus i'r plant ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd rhaid llenwi ffurflen ganiatâd rhieni yn y llyfrgell. Bydd y plentyn yn derbyn cerdyn Clwb y We sydd raid ei ddangos gyda'r cerdyn llyfrgell bob tro y byddant yn defnyddio cyfrifiadur.