Gweithdai Gwella Theori Gyrru i yrwyr hyn

8 Mai 2018 |
Bydd cyfle i yrwyr hyn ym Mhowys wella'u gwybodaeth am y ffyrdd trwy weithdai anffurfiol a drefnir gan y cyngor sir.
Bydd Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn cynnal gweithdai gwella theori gyrru ar y dyddiadau canlynol:
• Dydd Mercher 23 Mai - Aberhonddu
• Dydd Llun 11 Mehefin - Y Drenewydd
• Dydd Mawrth 12 Mehefin - Y Trallwng
• Dydd Iau 14 Mehefin - Tref-y-clawdd
• Dydd Mercher 4 Gorffennaf - Y Groes
• Dydd Mawrth 24 Gorffennaf - Rhaeadr
• Dydd Mawrth 14 Awst - Aberhonddu
• Dydd Llun 20 Awst - Y Trallwng
• Dydd Mercher 22 Awst - Y Drenewydd
• Dydd Mercher 12 Medi - Tref-y-clawdd
• Dydd Mercher 26 Medi - Y Groes
• Dydd Mawrth 16 Hydref - Rhaeadr
• Dydd Llun 29 Hydref - Y Trallwng
• Dydd Mawrth 31 Hydref - Y Drenewydd
Mae'r gweithdai i yrwyr y sir sy'n 65 oed a'n hyn, a dros ddwy awr a hanner o sesiwn anffurfiol yn yr ystafell ddosbarth, bydd cyfle i daro golwg dros Reolau'r Ffordd Fawr a beth sydd ei angen o ran trwydded yrru. Bydd yn cynnwys pynciau megis gyrru gyda'r hwyr, cyfreithiau meddyginiaeth ac alcohol a diogelwch personol tu ôl i'r olwyn.
Cewch fanylion hefyd asesiad gyrru ymarferol un awr os hoffech fachu ar y cyfle.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae sicrhau bod ein ffyrdd yn ddiogel yn bwysig iawn i'n sir. Byddem yn annog gyrwyr hyn ym Mhowys i fanteisio ar y cynllun gwych hwn. Mae'r gweithdai hyn mor bwysig gan y byddant yn gloywi ac yn diweddaru sgiliau gyrru hanfodol a all achub bywydau yn y pen draw."
Am ragor o wybodaeth neu i gadw lle ar y cwrs hwn, anfonwch e-bost at road.safety@powys.gov.uk neu ffoniwch Bridget Farrington, Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd (Gogledd) ar 01686 611586 neu Geoff Wilks, Swyddog Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd ar 07973 944652.