Cynllun triongl melyn ar gael ar gyfer gyrwyr

8 Mai 2018 |
Mae modurwyr ym Mhowys yn cael eu hannog i ymuno â chynllun a allai helpu'r gwasanaeth brys i ddod o hyd i wybodaeth am yrrwr a allai arbed bywyd mewn damwain.
Mae cynllun Triongl Melyn Cyngor Sir Powys ar gyfer gyrwyr yn rhoi'r cyfle iddynt arddangos ffordd o ddod o hyd i fanylion y gyrrwr mewn damwain.
Mae yna ddwy elfen i'r cynllun sef cerdyn 'Eich Manylion' a sticer triongl melyn.
Bydd y cerdyn yn rhoi manylion am berthynas agosaf y gyrrwr ynghyd ag unrhyw alergeddau a meddyginiaethau a'r cyngor yw y dylid cadw'r cerdyn yn y bocs menyg yn eu cerbydau.
Bydd y triongl melyn yn cael ei arddangos ar waelod chwith y sgrin wynt, fel nad yw'n tarfu ar y gyrrwr, ond yn weladwy ar gyfer y gwasanaethau brys fel eu bod yn gwybod bod y wybodaeth yn y bocs menyg.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Mae sicrhau bod ein ffyrdd yn ddiogel o bwysigrwydd mawr i ni fel sir.
"Bydd y fenter ddiweddaraf yma'n darparu gwybodaeth hanfodol i'r gwasanaethau brys os yw gyrrwr mewn damwain. Hoffwn annog holl yrwyr Powys i fanteisio ar y cynllun gwerthfawr yma."
Dywedodd Geoff Wilks, Swyddog Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd y cyngor: "Gan fod y rhan fwyaf o ffonau symudol wedi'u cloi a dim ond trwy gyfrinair y gellir eu hagor, ni ellir dibynnu mwyach ar y system I.C.E (mewn argyfwng) ar ffôn symudol i roi mynediad i wybodaeth ar gyfer y gwasanaethau brys.
"Bydd y cynllun hwn yn mynd un gam ymhellach trwy ddarparu manylion y berthynas agosaf ac hefyd manylion o wybodaeth bersonol y person sy'n berchen ar y cerdyn."
I ofyn am becyn y cynllun 'Triongl Melyn' ffoniwch 01597 826979 neu anfonwch neges e-bost at road.safety@powys.gov.uk
Os hoffech ragor o wybodaeth am gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd, ewch i www.facebook.com/RoadSafetyPowys