Canolfan ailgylchu gwastraff y cartref newydd yn cael caniatâd cynllunio
8 Mai 2018 |
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi eu bod wedi rhoi caniatâd i ddatblygu canolfan ailgylchu gwastraff y cartref newydd yng Ngogledd Powys.
Cymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio'r Cyngor Sir gais gynllunio ar gyfer canolfan newydd ar Ystad Ddiwydiannol Dyffryn yn Y Drenewydd yr wythnos diwethaf (dydd Iau, 3 Mai).
Prynodd y cyngor y safle yn Y Drenewydd y llynedd i greu canolfan newydd a fyddai'n eiddo i'r cyngor. Mae'n berchen safleoedd yn Aberhonddu, Llandrindod ac Ystradgynlais yn barod.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Ailgylchu a Gwastraff: "Rwyf wrth fy modd bod ein cais am ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref newydd wedi cael ei gymeradwyo. Bydd hwn yn llawer gwell na'r safle sydd gennym yn barod nad yw'n addas oherwydd ei faint a'i leoliad.
"Mae'r buddsoddiad yn y ganolfan newydd hwn yn rhan o'n cynlluniau hir dymor i gael cyfleusterau ailgylchu a gwastraff strategol ledled y sir. Mae'r ffaith ein bod yn berchen canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn rhoi sicrwydd i'r gwasanaeth gwerthfawr hwn.
"Mae canolfannau ailgylchu yn elfen hanfodol er mwyn i ni gyflawni targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i ailgylchu o leiaf 70 y cant o wastraff erbyn 2025."
Mae'r cyngor yn bwriadu dechrau datblygu'r safle cyn bo hir. Bydd yn cyhoeddi pryd bydd yn agor pan fydd y gwaith adeiladu'n dirwyn i ben.