Gwirfoddoli i helpu mewn amgueddfa
Yn y Gaer (amgueddfa, Oriel gelf a llyfrgell), Amgueddfa Powysland ac Amgueddfa Maesyfed, rydym yn dibynnu ar help llaw ein gwirfoddolwyr. Ym mhob amgueddfa, mae'r gwirfoddolwyr yn gwneud amryw o weithgareddau ac rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad yn fawr iawn.
y Gaer
Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael gyda'r canlynol:
- Dogfennu a chatalogio'r casgliad (gyda chatalogau cyfrifiadurol ac ar bapur)
- Cynorthwyo gyda digwyddiadau ar gyfer teuluoedd, ysgolion, ac achlysuron eraill
- Ffotograffiaeth ddigidol
- Goruchwylio'r oriel/siarad gydag ymwelwyr/teithiau tywysedig
- Glanhau/pacio arteffactau
- Ymchwilio i ymholiadau am y casgliad
Amgueddfeydd Powysland a Sir Faesyfed
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i 'gwrdd a chyfarch' gyda diddordeb mewn treftadaeth ac addysg i helpu gwella profiadau i ymwelwyr.