1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad:Taliadau am gasglu gwastraff swmpus i godi
Darllen mwy

Casgliadau Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog

Museums_Brecon_object1

Deunydd Archeolegol Lleol. Mae hyn yn cynnwys cwch boncyff prin o'r canoloesoedd cynnar o Lyn Llangors, casgliadau o gofebion Cristnogol cynnar, nifer o gyfarpar cynhanes a chasgliad mawr o waith metel Rhufeinig Cynnar o'r Gaer.  

Casgliad Hanes Cymdeithasol. Mae hwn yn cynnwys casgliad mawr o offer amaethyddol, eitemau'n gysylltiedig â threfi Sir Frycheiniog a'u siopau a chrefftau cysylltiedig, dodrefn Cymreig traddodiadol a chasgliad o ddarnau arian.

Enghreifftiau Hanes Naturiol.  Mae'r Amgueddfa'n gartref i gasgliad mawr o enghreifftiau tacsidermi, wyau adar a gloynnod byw.   

Casgliadau Daearegol.  Mae yna gasgliad mawr o ddarnau o greigiau a ffosilau o hen sir Frycheiniog.

Museums_Brecon_object2

 

Museums_Brecon_object3

Celf Hanesyddol.  Mae hwn yn gasgliad mawr sy'n cynnwys portreadau a phenddelwau o bobl hanesyddol lleol; darluniau, printiau a lluniau o'r amgylchedd lleol a hen ffotograffau lleol. 

Celf Gyfoes.  Mae'r casgliad hwn yn cynnwys gwaith gan Ken Elias, Josef Herman, Augustus John, John Piper, Eric Ravilious a Graham Sutherland. Mae gennym hefyd waith sy'n gysylltiedig â chymuned artistig Capel-y-ffin gan Eric Gill, David Jones, Reg Gammon a Edgar Holloway.

 


Image of Art UK - your paintings

ArtUK - y nod yw ceisio dangos holl gasgliad cenedlaethol y DG o luniau olew, hanesion y lluniau a lle i fynd i'w gweld nhw'n go iawn.  Mae'n cynnwys lluniau o filoedd o amgueddfeydd a sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled y wlad.

Mae Amgueddfa Brycheiniog wedi ychwanegu delweddau o'i gasgliad cyfan o 115 o ddarluniau olew ac acrylig at y wefan Your Paintings.  Mae ein casgliad yn cynnwys gwaith mor amrywiol â llun o'r ddeunawfed ganrif o Joseph Russell Bailey (1840 - 1906) gan John Collier, i waith gan arlunwyr cyfoes megis 'Miner with Dog' gan Josef Herman.

Ym mis Hydref 2013, aeth staff o Amgueddfa Brycheiniog â'r peintiad  olew 'Mynyddoedd Cymru' gan yr artist Cymreig, Augustus John, (1878-1961) i Ysgol Rhys Prichard yn Llanymddyfri.  Roedd y digwyddiad yn rhan o 'Eich Lluniau:  Campweithiau mewn Ysgolion', prosiect a ddatblygwyd gan  Sefydliad y Catalog Cyhoeddus (PCF) mewn partneriaeth â'r  BBC Learning a gynhaliwyd trwy gydol y mis hwnnw.

 


People's Collection Wales

Gwefan arbennig ar hanes Cymru a'i phobl yw gwefan Casgliad y Werin Cymru (PCW) ac mae'n rhad ac am ddim i'w defnyddio. Gallwch ddarganfod hanes Cymru trwy gyfraniadau gan bobl a sefydliadau o bob cwr o'r wlad - gallwch ychwanegu eich hanes eich hun hyd yn oed!

Mae Casgliad y Werin Cymru yn cynrychioli dull arloesol o gasglu, dehongli a thrafod treftadaeth ddiwylliannol Cymru.


 

Contacts


 

Feedback about a page here
 


 

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu