Penodi Cadeirydd Newydd Cyngor Sir Powys
Translation Required:

18 Mai 2018 |
Penodwyd cynghorydd sir o Aberhonddu'n Gadeirydd newydd Cyngor Sir Powys.
Etholwyd y Cyng David Meredith, sy'n cynrychioli ward Dewi Sant Mewnol, yn gadeirydd yng nghyfarfod blynyddol y cyngor ddoe (dydd Iau, 17 Mai), i olynu'r Cyng Dai Davies, aelod lleol ward Aberriw.
Etholwyd Cyng Meredith yn gynghorydd ar ward Dewi Sant Mewnol yn 2018 ac roedd yn Gadeirydd Sir Frycheiniog yn ystod 2012/13.
Etholwyd y Cyng Beverley Baynham, aelod lleol Llanandras yn Is-Gadeirydd yn y cyfarfod, a'r Cyng Gwynfor Thomas, aelod lleol Llansantffraid, yn Is-Gadeirydd Cynorthwyol.