Rhybudd tywydd

31 Mai 2018 |
Sylwch fod y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Ambr (manylion llawn isod) o law trwm yn y rhan fwyaf o dde a chanolbarth Cymru gan gynnwys llawer man ym Mhowys rhwng 16.00 heddiw (dydd Iau) a 06.00 yfory. Mae rhybudd melyn mewn grym i Gymru gyfan yn ystod yr un cyfnod.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod disgwyl stormydd taranau i symud yn araf gan ymuno â'i gilydd i gynhyrchu mannau lle bydd stormydd taranau mwy o faint a mwy dyfal. Bydd hyn yn arwain at law trwm iawn, gyda chymaint â 30-40 mm o law yn bosibl mewn awr, a phosibilrwydd cryf y bydd cymaint â 60-80 mm o law mewn 2 - 3 awr mewn ambell fan. Yn ogystal â hyn mae'n bosibl y bydd mellt a chenllysg i'w gweld.
Rhybudd Ambr wedi'i gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd.
- Glaw
I'r rhanbarthau hyn:
- Llundain a De Ddwyrain Lloegr
- De Orllewin Lloegr
- Cymru
- Gorllewin Canolbarth Lloegr
Mae taranau difrifol yn debygol o ddod â glaw trwm, llifogydd mewn ambell fan a llawer o fellt yn ei sgil.
- Mae llifogydd yn debygol mewn cartrefi a busnesau a gallai hyn ddigwydd yn gyflym, gyda'r d?r, y mellt, y cenllysg neu'r gwyntoedd cryf yn difrodi rhai adeiladau.
- Pan fydd llifogydd neu fellt, mae'n debygol y bydd rhai trenau, bysus a gwasanaethau awyr yn cael eu canslo.
- Bydd dwr yn tasgu o'r ffordd a llifogydd sydyn yn arwain at amodau gyrru anodd a chau rhai ffyrdd, ac mae'n debygol y gallai rhai cymunedau gael eu cau i mewn os oes llifogydd ar y ffyrdd.
- Mae'n debyg y bydd y cyflenwadau trydan a rhai gwasanaethau eraill yn cael eu torri i rai cartrefi a busnesau.
Yn ddilys 16:00 o ddydd Iau, 31 Mai 2018 hyd 06:00 ddydd Gwener, 1 Mehefin 2018
Cyhoeddwyd gan y Swyddfa Dywydd am 10:47 ddydd Iau, 31 Mai 2018
I gael rhagor o fanylion, ewch i:
http://www.metoffice.gov.uk/public/weather/warnings