1. Logio Mewn / Cofrestru
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad:Bydd peth oedi ar dalu Budd-daliadau Tai
Darllen mwy

Lawrlwytho e-Gomics i'ch ffôn clyfar neu lechen

Gallwch chi lawrlwytho cymaint o deitlau ag y mynnwch ac mae benthyciad yn para am saith diwrnod. Gewch chi ddarllen comics pryd bynnag y mynnwch - fydd neb arall yn cadw rhifyn ac ni fydd rhaid i chi aros i gael un.

Sut mae creu'ch cyfrif ComicsPlus

Mae ComicsPlus ac e-gylchgronau rbDigital yn defnyddio'r un manylion mewngofnodi. Os oes gennych gyfrif ar gyfer e-gylchgronau gallwch chi adael y cam yma allan.

Os nad oes gennych Gyfrif RBdigital ewch ati i greu cyfrif ar wefan ComicsPlus:

  1. Ewch i wefan ComicsPlus
  2. Cliciwch ar y ddolen 'Create New Account' ar frig y tudalen (bydd angen y rhif ar gefn eich cerdyn llyfrgell) a llenwch y ffurflen.

Bwrw iddi i ddefnyddio'r gwasanaeth ar ffôn clyfar* neu lechen

*Bydd angen ffôn clyfar mwy o faint arnoch chi i ddarllen y cylchgronau'n hwylus.

  1. Ewch ati i osod ap Fersiwn Llyfrgell 'ComicsPlus' o'ch Siop Apiau.
  2. Ewch i Osodiadau ac wedyn gwasgwch 'Mewngofnodi/Cofrestru'.
  3. Pan ddewch chi at sgrîn 'Dewiswch eich llyfrgell', dewiswch 'Cymru'.
  4. Mewngofnodwch gyda'r enw defnyddiwr a'r cyfrinair a ddewisoch chi ar y wefan (eich cyfeiriad e-bost yw'ch enw defnyddiwr fel arfer).
  5. I osod rheoliadau rhieni ewch i 'Dewisiadau' yn 'Gosodiadau'.

 

Cysylltiadau

 

Rhowch sylwadau am dudalen yma

 


Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu