Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Image of a woman reading with a child

Mae plant a phobl ifanc yn dysgu ar wahanol gyflymder ac efallai bydd angen cymorth ychwanegol ar rai i gyflawni eu nodau a dyheuadau.

Efallai bydd gan y rheiny sy'n dysgu ar wahanol gyflymder na'u cyfoedion  anghenion dysgu ychwanegol.   Efallai bydd y rhain yn cael eu cyflwyno mewn un neu ragor o'r isod:

  • Darllen ac ysgrifennu neu fathemateg
  • Anawsterau emosiynol
  • Oedi yn eu datblygiad iaith
  • Anghenion corfforol neu feddygol neu anawsterau golwg a chlyw

I nifer o blant a phobl ifanc nid yw'r anghenion dysgu ychwanegol yma'n rhai difrifol neu gallant fod yn rhai dros dro, megis dysgu iaith newydd.  Fodd bynnag, i rai, mae'r heriau maen nhw'n eu hwynebu yn mynd i fod gyda hwy am gryn amser ac yn golygu bod angen i'r ysgol, rhieni, y plentyn/person ifanc a'r awdurdod lleol, (weithiau gydag asiantaethau eraill) weithio gyda'i gilydd i gynllunio, gweithredu ac adolygu unrhyw gymorth neu ddarpariaeth ychwanegol sydd ei angen arnyn nhw.

Mae gan holl ysgolion Powys ystod o wasanaethau cymorth fel eu bod yn gallu adnabod dysgwyr sy'n cael anhawster gyda'u dysgu ac yn darparu cymorth ychwanegol ar eu cyfer.

Os nad yw'ch plentyn yn yr ysgol eto, cyfeiriwch at ein hadran Blynyddoedd Cynnar.

Sut i gael Cymorth

Yn gyffredinol, mae cymorth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn dilyn 'ymateb graddedig'. Mae hynny'n golygu ein bod yn cynyddu'r cymorth os nad ydynt yn ymateb fel y byddem wedi gobeithio i'r gwaith sy'n cael ei wneud yn wreiddiol i wella'r cynnydd.

Os oes gennych bryderon ynghylch y cynnydd y mae'ch plentyn yn ei wneud, dylech siarad yn gyntaf ag athro'r dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Neu, gall yr ysgol neu'r lleoliad cyn-ysgol gysylltu â chi i roi gwybod i chi am eu pryderon.

Os cytunir bod gan y plentyn neu'r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, bydd yr ysgol yn asesu a oes modd darparu'r ddarpariaeth i ddiwallu'r anghenion hynny yn yr ysgol neu os oes angen gwneud cais am gymorth gan wasanaethau cymorth yr awdurdod lleol.

Mae ysgolion a lleoliadau wedi'u hyfforddi'n gynyddol i asesu a chefnogi plant gydag anghenion ychwanegol.

Mathau o Gymorth

Pan fydd ysgol neu leoliad yn teimlo bod angen rhagor o gefnogaeth, gall gysylltu â gwasanaethau cymorth yr awdurdod lleol a bydd cyfarfod ymgynghori'n cytuno ar gynllun gweithredu a allai olygu bod angen i'r ysgol wneud rhagor o waith a/neu gyfraniad un o'r gwasanaethau cymorth:

  • Y gwasanaeth seicoleg addysg
  • Tîm Cymorth Synhwyraidd
  • Cymorth y Gwasanaeth Atgyfeirio Disgyblion
  • Gwasanaeth cymunedol ysgol arbennig neu ganolfan arbennig
  • Gwasanaeth Cymorth Ymddygiad trwy'r gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid / Gweithredu dros Blant
  • Yn y Blynyddoedd Cynnar, darperir cymorth trwy'r lleoliad sy'n gofyn am y cymorth, trwy'r hyn a elwir yn broses Atgyfeirio ar gyfer y blynyddoedd cynnar

Manylion cyswllt Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cysylltiadau

Neu os hoffech gael gwybodaeth am ein darpariaeth addysg presennol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, cysylltwch â ni drwy'r fanylion isod:

Rhowch sylwadau am dudalen yma