Agoriad swyddogol llwybrau diogel Llanandras
Translation Required:

15 Mehefin 2018 |
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi bod cyfleusterau teithio llesol newydd mewn tref yng nghanol Powys wedi cael eu hagor gan un o Weinidogion blaenllaw Llywodraeth Cymru.
Roedd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn Llanandras heddiw (Dydd Gwener, 15 Mehefin) ac agorodd cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau y dref yn ffurfiol.
Mae Tîm Teithio Llesol Cyngor Sir Powys wedi gwella'r llwybrau yn Llanandras fel rhan o gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau sydd wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun yn anelu at wella cyfleusterau teithio llesol yn y dref fel bod mwy o drigolion yn cael eu hannog i gerdded neu seiclo yn hytrach na theithio mewn cerbyd ar gyfer siwrneiau byr.
Mae'r gwelliannau'n profi i fod yn llwyddiant mawr ers cwblhau'r gwaith ym mis Mawrth, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y trigolion a disgyblion sy'n defnyddio'r llwybrau sydd wedi gwella a'r llwybrau newydd
Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd dros Addysg: "Rwy'n falch dros ben i agor y cynllun teithio llesol sy'n cysylltu cymunedau Llanandras ac sydd eisoes yn profi i fod yn boblogaidd iawn. Rwy'n falch iawn bod cyllid gan Lywodraeth Cymru yn ei gwneud yn haws i bobl ifanc ddewis dulliau iachach a mwy cynaliadwy o deithiol i'r ysgol."
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth: "Mae cynlluniau fel hyn yn gam mawr i'r cyfeiriad cywir i wireddu ein huchelgais o deithio llesol. Mae'r dull holistaidd a fabwysiadwyd gan Bowys ar gyfer y cynllun hwn ar gyfer cynnwys y gymuned wedi helpu i greu rhwydwaith o lwybrau cerdded a seiclo ledled y dref sydd â chefnogaeth y gymuned. Ry'n ni am annog pobl ifanc i lunio arferion iach am oes ac mae eu siwrnai i'r ysgol yn bendant yn fan da i ddechrau.
"Bydd y llwybrau hyn sydd wedi gwella yn darparu amgylchedd mwy diogel i bobl seiclo ac yn cefnogi'r newid diwylliant o ddefnyddio ceir am dripiau byr. Bydd hyn nid yn unig yn cynyddu gweithgareddau corfforol ond hefyd yn gwella ansawdd aer ac yn gwella lefel y tagfeydd yn ein hardaloedd prysuraf."
Meddai'r Cyng. Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Rwy'n hynod o falch bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi agor y cynllun llwybrau diogel pwysig yma sydd wedi darparu rhai o gyfleusterau teithio llesol mwyaf blaenllaw Cymru yma yn Llanandras.
"Dyluniwyd cynllun teithio'n llesol Llanandras i annog pobl i gerdded neu seiclo siwrneiau byr yn hytrach na gyrru. Bydd hyn yn helpu gwella iechyd a lles pobl ifanc, lleihau tagfeydd a gwella'r amgylchedd.
"Mae'n wych gweld bod nifer o drigolion a disgyblion yn defnyddio'r llwybrau ac rwy'n gobeithio y bydd eraill hefyd yn eu defnyddio ac yn dewis i wneud teithiau byr ar droed neu seiclo yn y dref."