Ysgol Gymraeg y Trallwng
Bydd prosiect adeiladu Ysgol Gymraeg y Trallwng dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn arwain at adeiladu ysgol Gymraeg newydd i 150 o ddisgyblion yn Y Trallwng.
Bydd y prosiect hwn yn brosiect blaenllaw i'r cyngor a'r prosiect cyntaf Ysgolion yr 21ain Ganrif ym Mhowys i integreiddio'r hen a'r newydd, yr hanesyddol a'r modern. Yr adeilad hwn hefyd fydd y prosiect passivhaus hybrid cyntaf yn y DU.
Bydd adeilad rhestredig Gradd II hen Ysgol Maesydre, sydd ar hyn o bryd yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng, yn cael ei adnewyddu i greu cyfleusterau cymunedol a blynyddoedd cynnar, gydag estyniad newydd i greu neuadd newydd i'r ysgol ac ystafelloedd dosbarth.
Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu'n cychwyn ar ôl gorffen prosiect Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma