Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng
Bydd prosiect adeiladu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng yn creu ysgol gynradd i 360 o ddisgyblion gyda chyfleusterau cymunedol a blynyddoedd cynnar.
Yr adeilad newydd fydd yr ysgol gynradd Passivhaus gyntaf i'w hadeiladu gan Gyngor Sir Powys fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac yn dilyn proses ad-drefnu bydd yn dod â disgyblion yr ysgol ar un safle am y tro cyntaf.
Cwmni Paveaways sydd â'r cytundeb i orffen y prosiect ac mae'r adeilad i agor i staff a disgyblion ym mis Ionawr 2021.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma