Gwaith gwrth-ffugio safonau masnach yn cael ei gydnabod

18 Mehefin 2018 |
Mae gwasanaeth Cyngor Sir Powys wedi cael ei gydnabod am ei waith yn ymladd yn erbyn y fasnach mewn nwyddau ffug mewn seremoni gwobrau o fri.
Derbyniodd Tîm Twyll Defnyddwyr Safonau Masnach gwobr o gymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwrth Ffugio gan y Grwp Gwrth Ffugio (ACG) a gynhaliwyd yn y Symposiwm Safonau Masnach Siartredig yn Nottingham. Derbyniodd y tîm eu gwobr mis yma (Dydd Mercher 6 Mehefin) ar Ddiwrnod Gwrth-Ffugio y Byd.
Dechreuwyd y gwobrau gan ACG ym 1994 i gydnabod y gwaith gorfodaeth ragorol sy'n digwydd yn y frwydr yn erbyn y fasnach mewn nwyddau ffug.
Cafodd y Tîm Twyll Defnyddwyr eu rhoi ar y rhestr fer yn y Gwobr Adran am Ragoriaeth yn y categori Gorfodaeth mewn Gwrth-Ffugio a enillwyd gan Gyd-Wasanaethau Rheoleiddio Penybont-ar-Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Wrth gyflwyno'r wobr o gymeradwyaeth uchel, dywedodd ACG bod y Tîm Twyll Defnyddwyr wedi 'llwyddo i gael canlyniadau arwyddocaol wrth fynd i'r afael â throseddau eiddo deallusol mewn ardaloedd gwledig Canolbarth Cymru ac ar draws y DU'.
Ychwanegwyd bod y tîm wedi 'cynnal nifer o ymchwiliadau mawr ac o safon uchel ar draws ffiniau rhanbarthol. Roedd ansawdd y cofnodion gwybodaeth yr oedden nhw wedi casglu wedi arwain at achosion llys hyfyw a llwyddiannus. Cawson nhw effaith mawr ac maen nhw wedi gweithio'n galed i ddatrys pob darn o wybodaeth er mwyn sicrhau bod pob awdurdod cysylltiedig wedi'u bodloni'.
Dywedodd y Cyng. James Evans, Aelod Cabinet ar faterion Safonau Masnach: "Rwy'n falch dros ben ein bod wedi derbyn y gymeradwyaeth hon, sy'n dangos bod y diwydiant yn cydnabod y gwaith ry'n ni'n gwneud.
"Mae hon yn wobr genedlaethol o fri sy'n cydnabod gwaith tîm bychan sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn wrth fynd i'r afael ag economi lle mae gangiau troseddu yn gweithredu yn y cysgodion.
"Hoffwn ddiolch i'n partneriaid niferus yn cynnwys Littleton Murdoch Limited, Heddlu Dyfed Powys, HMRC a GAIN. Ni fyddai'r wobr hon wedi bod yn bosib oni bai am y gwaith a'r cymorth y maen nhw wedi rhoi yn ystod ein brwydr yn erbyn y fasnach nwyddau ffug yn y sir."