1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad:Taliadau am gasglu gwastraff swmpus i godi
Darllen mwy

Wythnos Genedlaethol Democratiaeth

Image cynrychioli Wythnos Genedlaethol Democratiaeth
18 Mehefin 2018 

Democracy Week logo

Ry'n ni'n dathlu merched dylanwadol sy'n ysbrydoli ym Mhowys fel rhan o Wythnos Genedlaethol Democratiaeth.

Bydd Wythnos Genedlaethol Democratiaeth yn dechrau ddydd Llun 2 Gorffennaf 2018 gyda thema'r Canmlwyddiant y Bleidlais i nodi canrif ers i ferched ennill yr hawl i bleidleisio a naw deg o flynyddoedd ers Deddf Etholfraint Gyfartal 1928 a roddodd yr un hawliau i ferched bleidleisio ag i ddynion.

I ddathlu hyn, bydd Cyngor Sir Powys yn adrodd straeon ar y gwahanol gyfryngau cymdeithasol yn ystod Wythnos Genedlaethol Democratiaeth am y merched dylanwadol ym Mhowys ddoe a heddiw mewn unrhyw faes. Bydd y cyngor hefyd yn rhannu straeon cynghorwyr benywaidd i ddarganfod mwy am eu rôl mewn llywodraeth leol.

Yn ei blwyddyn agoriadol, mae'r wythnos yn dathlu democratiaeth mewn cymdeithas, ac mae'n cynnwys digwyddiadau, sgyrsiau a gweithgareddau llawn hwyl ar draws y DU. Nod yr wythnos yw annog rhagor o bobl i ymwneud â democratiaeth a chynyddu cyfranogiad ar draws y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: "I gefnogi Wythnos Genedlaethol Democratiaeth, nod y cyngor yw ysbrydoli rhagor o bobl i ymwneud â democratiaeth ym Mhowys a rhannu cyflawniadau gwych merched sydd wedi gwneud gwahaniaeth i'w cymunedau".

Gallwch ddilyn hynt gweithgareddau'r wythnos ar Twitter a Facebook: @powyscc / @cspowys

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu