Strategaeth Comisiynu Anabledd Dysgu
Rydym yn falch o gyflwyno'r cynllun integredig cyntaf hwn ar gyfer anabledd dysgu ym Mhowys. Fe'i lluniwyd wedi sgwrsio gyda phobl am yr hyn a ddywedwyd oedd ei angen arnynt.
Diben
Diben y cynllun hwn yw dweud sut y bydd Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn diwallu anghenion oedolion sydd ag anableddau dysgu.
Nod
Ein nod yw newid gofal iechyd a lles ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu dros y pum mlynedd nesaf. Mae Powys eisiau gwneud bywyd i bobl sydd ag anableddau dysgu yn well. Byddwn yn gwneud hyn trwy gynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn diwallu eu hanghenion a'u dewisiadau.