Cynnal Cynhadledd Rhwydwaith Seren ym Mhowys

25 Mehefin 2018 |
Ar ddechrau'r mis, croesawodd Ysgol Uwchradd Crughywel tua 100 o'r disgyblion chweched dosbarth mwyaf clyfar o ysgolion a cholegau Powys, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.
Yr ysgol oedd lleoliad Cynhadledd ddiweddaraf Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru oedd yn rhoi cipolwg a chyngor i fyfyrwyr ar wneud cais i brifysgolion gorau'r DU.
Jackie Parker yw Pennaeth yr Ysgol: "Mae'n braf cael croesawu'r gynhadledd hon eto gan ei fod mod bwysig bod ein disgyblion mwyaf clyfar yma ym Mhowys yn cael pob cyfle a chymorth i fynd am le yn Rhydgrawnt neu un o brifysgolion eraill Grwp Russell.
"Yn wir, roedd David Jones, un o'r siaradwyr yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Gwernyfed, ac fe soniodd am ei brofiadau o fynd i Gaergrawnt i astudio'r gyfraith", dywedodd Mrs Parker.
Hefyd, cafodd y myfyrwyr gyngor ar lunio datganiadau personol gan Dr Jonathan Padley, Prifysgol Caergrawnt, yn ogystal â thechnegau cyfweliadau gan Greg Scannell o'r 'Brilliant Club' - elusen sy'n ceisio annog myfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig i ymgeisio am y prifysgolion gorau.
Cynghorydd Myfanwy Alexander yw Aelod Cabinet y cyngor sy'n gyfrifol am Ddysgu a'r Iaith Gymraeg. Dywedodd: "Mae Prosiect Seren yn cefnogi ein disgyblion Mwy Abl a Thalentog ym Mhowys gan sicrhau bod eu dyheadau'n cymesur â'u galluoedd.
"Mae pobl ifanc o Bowys eisoes yn cyrraedd y prif brifysgolion ym Mhrydain a thu hwnt ac mae'r cynllun hwn yn sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn bachu ar y cyfleoedd hyn", ychwanegodd.
I wybod mwy am raglen Seren Llywodraeth Cymru, ewch i https://gov.wales/topics/educationandskills/learningproviders/seren