Codi baner yr RAF yn Neuadd y Sir

27 Mehefin 2018 |
Cyhoeddodd y cyngor sir y cynhaliwyd seremoni heddiw (dydd Mawrth 26 Mehefin) yn Llandrindod i ddathlu can mlwyddiant sefydlu llu awyr annibynnol cyntaf y byd.
Cafodd Baner yr RAF ei chodi yn Neuadd y Sir gan aelodau Cymdeithas Llu Awyr Brenhinol Tref-y-clawdd, Cangen Llandrindod y Lleng Brydeinig Frenhinol a Chadlanciau Awyr Llandrindod - Sgwadron 579 i ddathlu'r achlysur.
Fel rhan o'r seremoni, bu côr Ysgol Uwchradd Llandrindod yn canu i bwysigion a gwahoddedigion gyda disgyblion chweched dosbarth yr ysgol yn adrodd barddoniaeth.
Cafwyd araith gan Gomodor yr Awyrlu Adrian Williams, Uwch-swyddog yr RAF yng Nghymru, cyn cymryd y saliwt wrth godi'r faner.
Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Eiriolwr y Lluoedd Arfog ac Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Mae gan Bowys gysylltiad hir â'r lluoedd arfog felly mae'n hyfryd cael dathlu canmlwyddiant yr RAF trwy godi'r faner yn Neuadd y Sir.
"Mae Powys yn falch i fod yn ardal hyfforddi sy'n profi sgiliau rhai o'r swyddogion awyr gorau yn y byd."