Y cyfle olaf i gystadlu am brif wobrau busnes y sir

2 Gorffennaf 2018 |
Mae trefnwyr Gwobrau Powys yn gwahodd busnesau ymhob cwr o'r sir i gystadlu am wobrwyau busnes y sir eleni.
Y dyddiad cau yw Dydd Llun 9 Gorffennaf, 2018
Lansiwyd Gwobrau Busnes Powys eleni, sef gwobrau a sefydlwyd yn 2009, yn Neuadd y Sir yn Llandrindod fis Mehefin yng nghwmni noddwyr a chyn-enillwyr y gwobrau.
Cynhaliwyd gwobrau'r llynedd yn Theatr Hafren yn y Drenewydd gyda Lucy Owen, cyflwynydd Wales Today ac X-Ray ar BBC Wales a'i gwr Rhodri Owen sydd yntau'n gyflwynydd teledu, yn arwain y seremoni.
Mae cyflwyno'r gwobrau'n gyfle i bob busnes, menter gymdeithasol ac elusen ym Mhowys gystadlu am gyfle i fod yn y rownd derfynol, yn gwmnïau bach neu fawr, newydd neu wedi'u hen sefydlu.
Dywedodd Ceri Stephens, Rheolwr Grwp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru: "Mae Gwobrau Busnse Powys yn darparu llwyfan wych i fusnesau amlygu eu proffil. Bydd y rheiny sy'n cystadlu am y gwobrau'n cael eu beirniadu ar sail eu safonau rhagorol.
"Mae'r gwobrau hefyd yn darparu fforwm cyhoeddus lle gall y busnesau sydd yn y rownd derfynol ddod at ei gilydd yng nghwmni arweinwyr busnes a'u cyfoedion i ddathlu'u llwyddiant ar y noson.
"Budd y buddugwyr ar y noson hefyd yn cael budd o'r cyhoeddusrwydd lleol wrth i'r papura newydd a'r darlledwyr lleol a rhanbarthol sôn am y gwobrau. Bydd pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn ffilm fer broffesiynol am eu busnes, a gallant ddefnyddio hon yn eu cyhoeddusrwydd."
Mae'r ffurflenni cais ar gael nawr ar gyfer Gwobrau Busnes Powys 2018 a bydd penllanw'r gystadelueaeth yn cael ei ddathlu mewn cinio ffurfio yn Theatr Hafren jon Wener 28 Medi.
Dyma gategorïau Gwobrau Busnes Powys 2018:
• Gwobr Sefydlu Busnes a noddir gan y County Times
• Gwobr Entrepreneuriaeth a noddir gan Lywodraeth Cymru
• Gwobr Ymroddiad Eithriadol i Hyfforddiant a noddir gan NiBS Ltd
• Gwobr Twf ar gyfer Busnesau Bach a noddir gan Myrick Training
• Gwobr Menter Gymdeithasol / Elusennol a noddir gan Gymdeithas Tai canolbarth Cymru Cyf
• Gwobr Busnes Micro (Dan 10 o Weithwyr) a noddir gan y Cambrian News a'r Brecon & Radnor Express
• Gwobr Rhagoriaeth mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth a noddir gan Nidec Control Techniques
• Gwobr Mentor y Flwyddyn ym maes Croeso a Ffordd o Fyw a noddir gan Cambrian Training Company
• Gwobr Twf a noddir gan Banc Datblygu Cymru
• Gwobr Busnes Bach (Dan 30 o Weithwyr) a noddir gan Grwp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru
• Gwobr Masnach Ryngwladol a noddir gan Gyfreithwyr Lanyon Bowdler
• Gwobr Technoleg ac Arloesedd a noddir gan Trax JH Ltx
• Gwobr y Fusnes Twristiaeth Orau a noddir gan Grwp NPTC
• Gwobr Busnes y Flwyddyn a noddir gan Gyngor Sir Powys
Yn ogystal â'r dyfarniadau uchod, bydd y Panel Beirniaid yn gallu dyfarnu gwobr ddisgresiynol, sef Dyfarniad y Beirniaid, i gydnabod cyflawniad neu unigolyn eithriadol sydd wedi dod i sylw'r beirniaid yn ystod eu hymweliadau, os nad oes modd eu cydnabod o fewn meini prawf llym y gwobrau eraill.
Cyngor Sir Powys sy'n noddi'r enillwyr cyffredinol, cystadleuwyr buddugol Busnes y Flwyddyn Powys 2018.
Mae rhagor o fanylion ar gael am yr holl wobrau ar ein gwefan www.powysbusinessawards.co.uk a dydd Llun 9 Gorffennaf 2018 yw'r dyddiad cau.