Eich hawl i waith trwsio
Gallwch gael rhai atgyweiriadau brys, bychain wedi'u gwneud (hyd at £250) os ydynt yn debygol o effeithio ar eich iechyd neu ddiogelwch. Yr enw sy'n cael ei roi ar y rhain yw "atgyweiriadau sy'n gymwys".
Os yw'r atgyweiriadau yr ydych wedi gofyn amdanynt yn 'atgyweiriadau cymwys', byddwn yn trefnu bod y gwaith yn cael ei wneud o fewn yr amser penodol, a byddwn yn anfon copi o'r rhybudd atgyweirio y byddwn yn ei anfon at y contractwr. Os na fyddwn yn gwneud y gwaith mewn pryd, gallwch fynnu bod contractwr arall yn gwneud y gwaith. Os bydd y gwaith trwsio'n dal i fod heb ei wneud mewn pryd, byddwn yn talu iawndal o hyd at £50 yr atgyweiriad.
Bydd yr 'atgyweiriadau cymwys' yn cynnwys:
- socedi pwer neu oleuadau neu osodiadau trydannol anniogel
- ffliw tân agored neu foeler wedi blocio
- to sy'n gollwng
- toiledau sydd ddim yn fflysio (os nad oes unrhyw doiled arall)
- dwr yn gollwng o bibellau gwresogi, tanciau neu sisternau
- canllawiau grisiau neu reiliau llaw sy'n rhydd neu wedi torri
ContactsFeedback about a page here