Lleithder a llwydni
Gall lleithder ddod o ganlyniad i ddiffygion mewn eiddo, er enghraifft ynysu annigonol, ffenestri wedi'u torri neu ddiffyg gwres.
Mae tamprwydd, lleithder, Damp a thwf llwydni mewn cartrefi ymhlith y mathau mwyaf cyffredin o gwynion am eiddo. Gallwn weithio gyda meddianwyr a landlordiaid i helpu i fynd i'r afael â'r problemau hyn.
- Mae anwedd yn broblem mewn tywydd oer fel arfer. Mae awyru, ynysu a gwresogi annigonol yn ei wneud yn waeth.
- Pibelli, systemau gwastraff neu orlif sy'n gollwng
- Glaw yn treiddio i mewn trwy'r to, cwter wedi'i gau, pibell wedi'i chracio neu ymylon fframiau ffenestr
Mae angen i chi fynd i'r afael â'r hyn sy'n achosi'r broblem fel na fydd yn difrodi'ch cartref.
- Cynhyrchu llai o leithder
- Awyru i gael gwared ar y lleithder
- Ynysu, atal drafftiau a gwresogi yn eich cartref
Beth allwch chi wneud i helpu i ddatrys yr anwedd
- agor ffenestri pan fyddwch yn coginio
- defnyddio'r ffaniau echdynnu wrth i chi ymolchi neu gael cawod
- sicrhau bod yr eiddo'n cael ei wresogi
- sychu'r dillad y tu allan os gallwch, neu mewn ystafell gyda'r drws ar gau a'r ffenestri ar agor
- cysylltwch â'ch landlord os yw'r broblem yn parhau
Pethau na ddylech eu gwneud
- Peidiwch â chau awyrwyr parhaol
- Peidiwch â chau simneiau, gadewch dwll a rhowch rhwydd drosto
- Peidiwch ag atal drafftiau mewn ystafelloedd lle mae anwedd neu lwydni
- Peidiwch ag atal drafftiau mewn ystafelloedd lle cwcer neu dân
- Peidiwch ag atal drafftiau yn yr ystafell ymolchi neu'r gegin
Sut i gael gwared ar lwydni
Golchwch waliau a'r fframiau ffenestr gyda ffwngladdwr - gwnewch yn siwr bod ganddo rif swyddogol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a chadw'r ffwngladdwr yn ddigon pell oddi wrth blant ac anifeiliaid anwes! Dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus.
Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, ailaddurnwch gyda phaent sy'n cynnwys ffwngladdwr. Peidiwch â defnyddio paent neu bapur wal arferol rhag ofn i'r llwydni ddychwelyd.
CyswlltEich sylwadau am ein tudalennau