Cymeradwyo cais cynllunio am ysgol newydd

9 Gorffennaf 2018 |
Mae cynlluniau i atgyfnerthu darpariaeth gynradd yn Y Trallwng wedi cymryd cam sylweddol ymlaen wrth i Gyngor Sir Powys roi caniatâd cynllunio am ysgol newydd cyfrwng Saesneg yr Eglwys yng Nghymru.
Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd modd bwrw 'mlaen i adeiladu ysgol newydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn i 360 o ddisgyblion ar Ffordd Salop ger ysgol uwchradd y dref. Mae disgwyl i'r ysgol newydd agor ym mis Medi 2019.
Sefydlwyd Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng ym mis Medi y llynedd. Ar hyn o bryd mae'r ysgol ar hen safleoedd ysgolion Gungrog, Oldford a Maesydre. Bydd disgyblion yn aros lle maen nhw tan adeiladu'r ysgol newydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar faterion Addysg, y Cynghorydd Myfanwy Alexander: "Mae hwn yn gam pwysig ymlaen ar y llwybr i sicrhau amgylcheddau dysgu o'r radd orau i'n dysgwyr yn Y Trallwng a chyn bo hir bydd gwaith ar y safle'n dyst i'n hymrwymiad i ddyfodol addysg yn yr ardal."
Dawnus, cwmni o Gymru sydd wedi cael y contract i adeiladu'r ysgol newydd hon a'r ysgol Gymraeg newydd i 150 o ddisgyblion ar safle Maesydre yn y dref. Mae disgwyl i'r ysgol Gymraeg newydd fod yn barod erbyn mis Medi 2020.
Cyngor Sir Powys a Rhaglen Llywodraeth Cymru Ysgolion yr 21ain Ganrif sy'n ariannu'r prosiect hwn.
Gallwch weld sut mae'r gwaith ar yr adeilad newydd yn dod yn ei flaen trwy fynd i wefan yr awdurdod sef www.powys.gov.uk a thudalennau cyfryngau cymdeithasol.