Gwaith ar droed i gael llwybrau diogel yn Nhref-y-clawdd

10 Gorffennaf 2018 |
Mae gwaith wedi dechrau ar greu llwybrau diogel i seiclwyr a cherddwyr mewn tref yng nghanol Powys, diolch i fuddsoddiad o £322,000.
Mae Cyngor Sir Powys wedi dechrau creu'r llwybrau yn Nhref-y-clawdd ddoe (dydd Llun 9 Gorffennaf) fel rhan o gynllun 'Llwybrau Diogel mewn cymunedau'.
Ariennir y cynllun trwy grant Llywodraeth Cymru 'Llwybrau Diogel mewn Cymunedau'. Bydd yn creu llwybr diogel i ddisgyblion gyrraedd Ysgol Gynradd Tref-y-clawdd a bydd hefyd yn gwella cysylltiadau teithio llesol i nifer o drigolion Tref-y-clawdd i gyrraedd y ganolfan hamdden, y safle bws, canolfan gymuned a'r llyfrgell ac i ganol y dref.
Datblygwyd y llwybr hwn yn dilyn ymgynghori helaeth wedi i dîm teithio llesol y cyngor ddatblygu'r Map Rhwydwaith Integredig. Cafwyd cyfraniad gwerthfawr hefyd gan Gyngor Tref Tref-y-clawdd a'r ysgol gynradd i gynllun y llwybr.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar Deithio Llesol: "Rydym am hyrwyddo cerdded a seiclo mewn cymunedau trwy wella'r ddarpariaeth leol. Mae'r gwaith hwn yn Nhref-y-clawdd yn dilyn gorffen gwaith tebyg yn Llanandras ar ddechrau'r flwyddyn sydd wedi bod yn boblogaidd dros ben.
"Y cynllun hwn fydd y llwybr teithio llesol ffurfiol cyntaf yn Nhref-y-clawdd, ond y cam cyntaf yn unig yw hwn. Ein huchelgais yw creu rhwydwaith teithio llesol cyflawn sy'n cysylltu â phob rhan o'r dref.
"Byddwn wedi gorffen y gwaith hwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac rwy'n gobeithio y bydd y gymuned yn manteisio ar y llwybrau newydd ac yn dewis cerdded neu seiclo teithiau byr o fewn y dref pan fyddan nhw'n barod."