1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: Wyddoch chi y gallwch fenthyg cit casglu sbwriel wrthym ni a helpu i gadw Powys yn lân
Darllen mwy

Hyfforddiant Diogelwch Bwyd Lefel 2

Budd i'r Sefydliad

Sicrhau fod y sawl sy'n mynychu'r cwrs yn deall egwyddorion sylfaenol diogelwch bwyd trwy ddeall y peryglon sydd ynghlwm â pharatoi bwyd a'u cyfrifoldeb i gynhyrchu bwyd diogel.

 

Pwy ddylai fynd?

Mae'r cymhwyster hwn yn addas i unrhyw un sy'n trin bwydydd agored neu risg uchel, neu'n goruchwylio neu reoli pobl sy'n trin bwyd.

 

Amcanion Dysgu

Bydd y dysgwr yn:

  1. Deall terminoleg diogelwch bwyd a'r cysyniad o beryglon bwyd ac asesu risg
  2. Deall cyfrifoldebau cyfreithiol y rhai sy'n trin bwyd a busnesau bwyd
  3. Deall sgil-effeithiau safonau hylendid gwael.
  4. Deall rôl bacteria dirywiad bwyd a sut i adnabod bwyd sydd wedi dirywio.
  5. Deall symptomau, sgil-effeithiau posibl ac achosion gwenwyn bwyd.
  6. Deall rôl bacteria mewn gwenwyn bwyd a beth maen nhw ei angen i dyfu a goroesi.
  7. Deall dulliau cadw bwyd
  8. Deall y bacteria gwenwyn bwyd mwyaf cyffredin, sut maen nhw'n gweithio a sut i'w rheoli.
  9. Deall peryglon croes-halogi bacterol, dulliau halogi a sut i'w hatal.
  10. Deall pwysigrwydd rheoli tymheredd; coginio, oeri, aildwymo, cadw'n boeth.
  11. Deall pwysigrwydd gweithdrefnau rheoli stoc: derbyn nwyddau, storio, marcio dyddiad, cylchdroi stoc
  12. Deall sut i gadw'r lle gwaith a'r offer yn lân gan gynnwys dulliau glanhau, defnydd diogel ac effeithiol o gemegau a storio deunydd glanhau.
  13. Deall y risg i ddiogelwch bwyd o beryglon alergenig.
  14. Deall pwysigrwydd sicrhau iechyd a hylendid personol
  15. Deall pwysigrwydd rheoli plâu.
  16. Deall y risg i ddiogelwch bwyd o halogi corfforol

 

Cynnwys y cwrs

  1. Terminoleg diogelwch bwyd
  2. Cyfreithiau diogelwch bwyd
  3. Peryglon diogelwch bwyd
  4. Oeri a chadw bwydydd yn oer.
  5. Coginio, cadw bwydydd yn boeth ac ail-dwymo bwydydd.
  6. Hylendid personol
  7. Egwyddorion storio bwyd
  8. Glanhau
  9. Safleoedd ac offer bwyd

 

Amser

1 diwrnod  (Time: 09:30 1 17:00)

 

Dyddiadau'r cwrs a'r pris

Dyddiadau sydd ar gaelLleoliad
  

Pris £55 y pen (nid yw'n cynnwys cinio)

 

Cadw lle

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​

 

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu