Hyfforddiant Diogelwch Bwyd Lefel 2
Budd i'r Sefydliad
Sicrhau fod y sawl sy'n mynychu'r cwrs yn deall egwyddorion sylfaenol diogelwch bwyd trwy ddeall y peryglon sydd ynghlwm â pharatoi bwyd a'u cyfrifoldeb i gynhyrchu bwyd diogel.
Pwy ddylai fynd?
Mae'r cymhwyster hwn yn addas i unrhyw un sy'n trin bwydydd agored neu risg uchel, neu'n goruchwylio neu reoli pobl sy'n trin bwyd.
Amcanion Dysgu
Bydd y dysgwr yn:
- Deall terminoleg diogelwch bwyd a'r cysyniad o beryglon bwyd ac asesu risg
- Deall cyfrifoldebau cyfreithiol y rhai sy'n trin bwyd a busnesau bwyd
- Deall sgil-effeithiau safonau hylendid gwael.
- Deall rôl bacteria dirywiad bwyd a sut i adnabod bwyd sydd wedi dirywio.
- Deall symptomau, sgil-effeithiau posibl ac achosion gwenwyn bwyd.
- Deall rôl bacteria mewn gwenwyn bwyd a beth maen nhw ei angen i dyfu a goroesi.
- Deall dulliau cadw bwyd
- Deall y bacteria gwenwyn bwyd mwyaf cyffredin, sut maen nhw'n gweithio a sut i'w rheoli.
- Deall peryglon croes-halogi bacterol, dulliau halogi a sut i'w hatal.
- Deall pwysigrwydd rheoli tymheredd; coginio, oeri, aildwymo, cadw'n boeth.
- Deall pwysigrwydd gweithdrefnau rheoli stoc: derbyn nwyddau, storio, marcio dyddiad, cylchdroi stoc
- Deall sut i gadw'r lle gwaith a'r offer yn lân gan gynnwys dulliau glanhau, defnydd diogel ac effeithiol o gemegau a storio deunydd glanhau.
- Deall y risg i ddiogelwch bwyd o beryglon alergenig.
- Deall pwysigrwydd sicrhau iechyd a hylendid personol
- Deall pwysigrwydd rheoli plâu.
- Deall y risg i ddiogelwch bwyd o halogi corfforol
Cynnwys y cwrs
- Terminoleg diogelwch bwyd
- Cyfreithiau diogelwch bwyd
- Peryglon diogelwch bwyd
- Oeri a chadw bwydydd yn oer.
- Coginio, cadw bwydydd yn boeth ac ail-dwymo bwydydd.
- Hylendid personol
- Egwyddorion storio bwyd
- Glanhau
- Safleoedd ac offer bwyd
Amser
1 diwrnod (Time: 09:30 1 17:00)
Dyddiadau'r cwrs a'r pris
Dyddiadau sydd ar gael | Lleoliad |
---|---|
Pris £55 y pen (nid yw'n cynnwys cinio) |
Cadw lle
Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn. Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma