Grantiau i ddatblygu chwaraeon ar lawr gwlad ledled Powys

18th July 2018
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod dros £7,400 wedi cael ei drosglwyddo i nifer o sefydliadau chwaraeon ledled y sir. Mae Tîm Datblygu Chwaraeon y Cyngor yn annog grwpiau chwaraeon ac ymarfer corff ym Mhowys i fanteisio ar grant gwerth hyd at £1,500 i helpu cyfrannu at greu clybiau ffyniannus a fydd yn parhau i greu cyfleoedd trwy fentrau ac arloesedd.
Mae'r grantiau wedi'u cynllunio i wneud gwahaniaeth i chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn lleol ac maent ar gael trwy Gist Gymunedol Sportlot, cynllun cymorth grant Cyngor Chwaraeon Cymru a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Chwaraeon: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu rhoi'r grantiau hyn i'r saith clwb. Bydd y grantiau'n helpu'r clybiau i ffynnu a gwneud gwahaniaeth i chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal.
"Gyda £90,000 ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, hoffwn annog sefydliadau i gyflwyno ceisiadau fel na fyddant yn colli'r cyfle i dderbyn yr arian grant hwn."
Mae'r prosiectau diweddar a fu'n llwyddiannus yn cynnwys
- Clwb Tennis Llanfair-ym-Muallt: £1,500 tuag at gyfarpar, addysg hyfforddwyr, costau hyfforddi a llogi cyfleusterau
- Mid Wales Meteors: £1,500 tuag at gyfarpar, addysg hyfforddwyr a llogi cyfleusterau
- Clwb Pel-droed Newtown Wanderers: £100 tuag at addysg hyfforddwyr
- Clwb Canwio'r Trallwng: £1,500 tuag at gyfarpar, addysg hyfforddwyr a llogi cyfleusterau
- Clwb Criced y Trallwng: £1,250 tuag at chyfarpar hyfforddwyr
- Clwb Pel-droed Ystradgynlais: £590.00 tuag at addysg hyfforddwyr a llogi cyfleusterau
- Clwb Rygbi Tref y Clawdd: £975 tuag at gyfarpar ac addysg hyfforddwyr.
Y dyddiad terfyn nesaf ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau, 6 Medi, 2018. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Thîm Datblygu Chwaraeon y cyngor ar 01686 614060 neu anfonwch neges e-bost at angela.williams@powys.gov.uk
Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o wefan Cyngor Chwaraeon Cymru www.sportwales.org.uk