Beicwyr Modur angen trwydded i fynd ar hyd Llwybr y Mynaich

18/07/2018
![]() | Mae'r cyngor sir wedi datgan y bydd angen i feicwyr modur wneud cais am drwydded i fynd ar hyd rhan o gilffordd Powys yn hwyrach y mis hwn. Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer beicwyr modur sydd am deithio ar hyd rhan o Lwybr y Mynaich, cilffordd adnabyddus yng Nghwm Elan. |
Bydd yr ail ddiwrnod y gellir defnyddio drwydded ar ddydd Llun, 30 Gorffennaf a bydd hyd at 15 o feicwyr modur yn cael caniatâd i deithio ar y diwrnod hwnnw. Bydd y trwyddedau ar gyfer y ddau ddiwrnod sydd ar ôl ar 12 a 31 Awst, ar gael cyn bo hir.
Mae'r cynllun wedi cael ei roi yn ei le i ddarganfod lefel y defnydd o feiciau modur y gall wyneb y gilffordd ei gymryd yn ei gyflwr presennol cyn ystyried rhagor o waith i gefnogi defnydd o'r gilffordd gan feicwyr modur.
Bydd y cynllun yn caniatáu mynediad ar hyd tri chilomedr o'r gilffordd o Bont ar Elan felly ni fydd mynediad ar gael ar gyfer y gilffordd gyfan.
Meddai'r Cyng Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cefn Gwlad: "Mae'r gilffordd yn dilyn rhan o lwybr canoloesol 'Llwybr y Mynaich' rhwng Abaty Cwm-hir a Strata Florida ac mae'n croesi ardal fawr o gynefinoedd sensitif ecolegol.
"Bydd y cynllun trwyddedu yn cynorthwyo ein tîm Gwasanaethau Cefn Gwlad wrth gydbwyso anghenion pob grwp o ddefnyddwyr gyda chynaliadwyedd y llwybr a'r dirwedd sensitif o'i amgylch."
Gall beicwyr modur wneud cais am ganiatâd trwy ymweld â gwefan y cyngor yn https://customer.powys.gov.uk/monktrod ond y drefn fydd y cyntaf i'r felin, oherwydd y nifer cyfyngedig o drwyddedau sydd ar gael.