Rhoi wyneb newydd ar y ffordd ger Felindre

24 Gorffennaf 2018 |
Mae'r Cyngor Sir yn rhybuddio modurwyr y bydd ffordd yng nghanol Powys ar gau fis nesaf am bum diwrnod yn ystod y dydd er mwyn rhoi wyneb newydd i lawr.
Mae Cyngor Sir Powys yn rhoi'r rhybudd cyn cau'r B4355 ger Felindre.
Bydd y gwaith ar y ffordd yn para am bum diwrnod ac yn dechrau am 9.00am ddydd Llun 6 Awst. Bydd y ffordd yn ailagor bob nos am 7.00pm. Disgwylir y bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn 7.00pm ddydd Gwener 10 Awst.
Bydd y gwaith yn digwydd i'r gorllewin o Felindre rhwng Neuadd Cwm Gwyn a Bwlch y Llyn.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd: "Bydd rhaid i ni gau'r ffordd wrth i ni roi wyneb newydd i lawr gan fod ei lled yn rhy gyfyng i'w chadw ar agor.
"Rydym yn cau'r ffordd fel bod ein contractwyr a'u staff yn gallu gwneud y gwaith yn ddiogel.
"Bydd arwyddion yn dangos y ffyrdd eraill i'w defnyddio a bydd ein contractwyr yn cadw mynedfeydd i eiddo ar agor ar hyd rhannau'r ffordd fydd ar gau. Bydd y ffordd yn ailagor bob noson.
"Rydym yn ymddiheuro os bydd y gwaith yn peri trafferth ond rwy'n siwr y bydd gyrwyr yn gwerthfawrogi'r wyneb ffordd newydd ar ôl i ni gwblhau'r gwaith."