Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelwch Personol
Budd i'r Sefydliad
Mae'r cwrs hwn yn rhoi ymwybyddiaeth i weithwyr cyflog o sut i ddatrys gwrthdaro, gyda sylw penodol i bwysigrwydd diogelwch personol i'w galluogi i'w diogelu eu hunain yn wyneb ymddygiad gwrthdrawol.
Mae'r hyfforddiant hwn yn bwysig am fod trais cysylltiedig â'r gwaith ar gynnydd ac mae dyletswydd gofal ar gyflogwyr i ddarparu gweithle diogel. Nid yw hyn yn hawdd mewn amgylcheddau ble bo posibilrwydd uchel o wrthdaro ac ymddygiad ymosodol.
Pwy Ddylai Fynychu?
Addas i unrhyw weithwyr cyflog yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat y mae eu gwaith yn dod â nhw i gysylltiad ag eraill; yn cynnwys cydweithwyr, cwsmeriaid, aelodau o'r cyhoedd, cleifion neu gleientiaid.
Amcanion Dysgu
- Deall y derminoleg a ddefnyddir ym maes datrys gwrthdaro.
- Bod â gwybodaeth o'r cyfreithiau sy'n berthnasol i fusnesau a'u gweithwyr cyflog.
- Deall y cysyniad o amgylchedd gwaith diogel a sut y gellir asesu'r risg o wrthdaro.
- Gallu adnabod sefyllfaoedd gwrthdrawol posibl ac esmwytho achosion o wrthdaro cyn iddynt arwain at drais difrifol.
- Deall pwysigrwydd diogelwch personol.
Cynnwys y Cwrs
- Y gyfraith
- Yr amgylchedd gwaith diogel
- Datrys Sefyllfaoedd Gwrthdrawol
- Diogelwch Personol
Hyd
4 Hours (Time: 09:30 to 16:30)
Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs
Dates available | Venue |
---|---|
TBC |
Trefnu Lle
Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn. Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma