Cwrs Hanfodion Rheoli Prosiectau (3 diwrnod)
Budd i'r Sefydliad
Mae'r cwrs tri diwrnod hwn wedi'i lunio i ysbrydoli staff i fabwysiadu ymddygiad ac arferion newydd ac i wella effeithiolrwydd cyffredinol Rheolwyr Prosiectau o fewn Cyngor Sir Powys.
Pwy Ddylai Fynychu?
Rheolwyr Prosiectau, y rhai sy'n ymwneud â sefydlu prosiect, ac eraill sy'n chwarae rôl sylweddol mewn tîm prosiect. Mae'r cwrs hwn yn addas i'r rhai sy'n newydd i reoli prosiectau.
Amcanion Dysgu
- Disgrifio cyd-destun prosiect a pherthynas hyn â'r ffordd y caiff y prosiect ei reoli
- Ysgrifennu dogfennau defnyddiadwy ar gyfer prosiectau, yn cynnwys achosion busnes a chynlluniau prosiect
- Disgrifio cydrannau allweddol tîm a sut y gallai rheolwr prosiect geisio'u rheoli
- Cynnal dadansoddiad gwaith o brosiect fel cydran gyntaf mewn cynllunio a llunio cynllun prosiect
- Cynnal dadansoddiad risg o brosiect a disgrifio ffyrdd y gellir monitro a rheoli prosiect
- Cynnal dadansoddiad rhanddeiliaid a disgrifio ffyrdd y gellir eu rheoli
- Bod â digon o wybodaeth i sefyll arholiad tystysgrif ragarweiniol APM
Cynnwys y Cwrs
- Cyflwyniad i Reoli Prosiectau
- Cyflwyniad i fframwaith prosiectau CS Powys
- Strwythur Trefnu Prosiectau
- Cynllunio Prosiectau, yn cynnwys Cwmpas a Nodi Tasgau, Amserlennu, Adnoddau ac Amcangyfrifo
- Deall Llwyddiant Prosiect
- Ymgysylltu a Chyfathrebu â Rhanddeiliaid
- Rheoli Problemau a Risgiau
- Gwaith Tîm ac Arweinyddiaeth
- Rheoli eraill a Dylanwadu
- Sut i Fonitro a Rheoli
- Rheoli Newidiadau
- Dirwyn Prosiect i Ben
- Arferion Gorau, Gwelliannau Parhaus a Gwersi a Ddysgwyd
Hyd
2 Diwrnod (Amser: 09:30 i 16:30)
Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs
Dyddiadau sydd ar gael | Lleoliad |
---|---|
11/02/2019 12/02/2019 08/03/2019 | Ystafell Hyfforddi - Y Caban, Neuadd y Sir, Llandrindod |
Cost: £495 y person |
Gwybodaeth Arall
Bydd prawf amlddewis ar ddiwedd y cwrs hwn.
Trefnu Lle
Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn. Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma