Gwobrau'r Barcud Arian i Jayne ac Emma

1 Awst 2018 |
Mae Cadeirydd Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno gwobrau'r Barcud Arian i ddwy wraig o Bowys.
Derbyniodd Jayne Griffiths o Lanllyr ac Emma Haines o Lyswen Farcud Arian a Thystysgrif o Werthfawrogiad gan y Cynghorydd David Meredith fis diwethaf (dydd Gwener 6 Gorffennaf).
Cynhaliwyd y cyflwyniad yn ystod Wythnos Ddemocratiaeth Genedlaethol lle bu'r cyngor yn dathlu merched dylanwadol ac ysbrydoledig ym Mhowys.
Cyflwynwyd y wobr i Mrs Griffiths i gydnabod ei gwasanaethau rhagorol a gwerthfawr i'r gymuned. Yn ddiweddar fe wnaeth liwio Llandrindod yn binc ar ran Cancer Research UK, ac yn ei rôl fel hyrwyddwr cymunedol, mae Mrs Griffiths yn gweithio gydag elusennau lleol gan gynnwys Banc Bwyd Llandrindod, MIND, Bracken Trust a'r clwb coesau lleol.
Cyflwynwyd y wobr i Ms Haines i gydnabod ei llwyddiant mewn gwobrau trin gwallt a phrydferthwch. Mae'r therapydd prydferthwch wedi bod yn rhedeg ei busnes ei hun ers dros naw mlynedd ar gyrion Llyswen, ac ym mis Mawrth enillodd wobr Masseuse y Flwyddyn yng Ngwobrau Trin Gwallt a Phrydferthwch Cymru 2018.