Bron â £1m mewn grantiau teithio llesol yn dod i Bowys

6 Awst 2018 |
Mae cynlluniau i wella cynlluniau teithio llesol mewn dwy dref ym Mhowys wedi derbyn hwb enfawr ar ôl i grant gan Lywodraeth Cymru am filiwn o bunnau bron.
Llwyddodd Tîm Teithio Llesol Cyngor Sir Powys i sicrhau £950,000 gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i wella cyfleusterau teithio llesol yn Y Drenewydd a Llanandras.
Mae'r cyngor wedi derbyn £550,000 ar gyfer cam cyntaf ei gynlluniau llesol i'r Drenewydd. Fel rhan o'r gwaith bydd pont yn cael ei hadeiladu dros yr Afon Hafren yn cysylltu Ffordd y Gamlas a Ffordd Y Trallwng yn y dre ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Bydd cyfleusterau teithio llesol yn cael eu hehangu yn Llanandras ar ôl i Lywodraeth Cymru ddyfarnu grant o £400,000. Mae'r grant diweddaraf i Lanandras yn dilyn llwyddiant prosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau'r dref. Fe gwblhawyd hwn yn gynharach eleni gyda chefnogaeth fawr gan y gymuned. Bellach mae mwyfwy o drigolion yn penderfynu cerdded neu feicio gan ddefnyddio'r llwybrau newydd yn lle gyrru cerbyd.
Mae'r Gronfa Teithio Llesol yn rhan o ymrwymiad cyllido Llywodraeth Cymru i godi teithiau llesol ledled Cymru yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Teithio Llesol: "Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu'r arian yma o'u Cronfa Teithio Llesol.
"Rydym wedi ymrwymo i wella iechyd a lles ein trigolion, lleihau tagfeydd a gwella'r amgylchedd. O ganlyniad i'r cyllid yma byddwn yn gallu gwireddu ein cynlluniau teithio llesol yn y trefi.
"Rydym wedi gwneud llawer o waith yn barod i ddatblygu cyfleusterau teithio llesol yn Y Drenewydd a Llanandras a bydd yr arian yma'n cyfoethogi'r cyfleusterau'n enfawr."
"Hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru am gefnogi ein cynigion ac am roddi'r cyllid grant hwn. Byddwn ni'n bwrw iddi rwan i gydweithio â thrigolion a rhanddeiliaid lleol o'r ddwy dref i helpu i lunio'r cynlluniau yma."