Rhoi caniatâd cynllunio i gynlluniau ar gyfer Parc Busnes Aber-miwl
6 Awst 2018 |
Cyhoeddodd y cyngor sir iddo roi sêl bendith i gynlluniau i ddatblygu parc busnes gwag yng Ngogledd Powys ar gyfer unedau busnes a chyfleuster crynhoi deunydd ailgylchu.
Cafodd cais cynllunio i ddatblygu Parc Busnes Aber-miwl ger y Drenewydd ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Powys wythnos diwethaf (dydd Iau, 2 Awst).
Bydd y cyngor yn datblygu'r parc busnes ac yn adeiladu chwe uned fusnes a chyfleuster crynhoi deunydd ailgylchu ar ôl prynu'r safle 1.7 hectar y llynedd wrth Lywodraeth Cymru.
Mae'r seilwaith sylfaenol eisoes yn bodoli ar y safle ar ôl gwneud gwaith adeiladu flynyddoedd yn ôl fel rhan o Raglen Adfywio Dyffryn Hafren, a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith datblygu'n debygol o ddechrau yn gynnar yn 2019 gyda'r cyngor yn bwriadu datblygu'r parc gam wrth gam.
Y bwriad yw cynnig y chwe uned fusnes ar gyfer busnesau lleol sydd am sefydlu eu hunain ac ehangu, a bydd y cyfleusterau crynhoi deunydd ailgylchu ar gyfer deunydd sy'n cael eu casglu o gartrefi i'w crynhoi ar y safle cyn cael eu cludo i ail-broseswyr.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau: "Mae'n beth da bod y cais hwn wedi cael sêl bendith.
"Fel rhan o'n gweledigaeth i Bowys, rydym am fod yn gyngor agored a blaengar sydd wrthi'n hybu a chefnogi economi sy'n ffynnu. Yn dilyn y penderfyniad hwn, gallwn ddatblygu'r safle hwylus hwn er mwyn cynnig cyfleoedd i fusnesau presennol ehangu a denu mentrau newydd i'r sir.
"Mae'r cyfleusterau crynhoi deunydd ailgylchu'n hanfodol i wneud yn fawr o effeithiolrwydd y cerbydau casglu a sicrhau ansawdd y deunydd rydym yn ei gasglu wrth i ni barhau i gynyddu ein cyfraddau ailgylchu yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru. Mae'r safle hwn mewn man delfrydol rhwng y ddwy dref fwyaf poblog yng ngogledd Powys."