Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth sy'n gallu ac yn methu mynd i'ch bin du ar olwynion - gwastraff na allwch ei ailgylchu

General Waste
Defnyddiwch y bin du ar olwynion ar gyfer unrhyw beth dros ben na allwch chi ei roi yn y blychau ailgylchu neu'r cadi gwastraff bwyd. Nid ydym yn dosbarthu sachau duon bellach.

Pan fyddwch yn rhoi'ch bin ar olwynion allan i ni ei gasglu, cofiwch gau'r caead yn llwyr. Os ydych yn gadael ysbwriel ar y llawr gan nad oes lle yn y bin ar ei gyfer, ni fyddwn yn mynd â'r sbwriel dros ben.

Os nad oes gennych le yn eich blychau gwastraff ailgylchu'n aml, mae croeso i chi ofyn am fwy o flychau ailgylchu.

Os na allwch chi gadw bin du ar olwynion fe wnawn ni asesu'ch eiddo a rhoi rholyn 52 sach porffor yn lle. Dyma'r un maint â chasglu bin ar olwynion safonol bob yn dair wythnos.

Os ydych yn ailgylchu cymaint ag y gallwch, dylai fod gennych ddigon o le yn eich bin ar olwynion neu'ch sachau porffor. Fodd bynnag, os bydd gennych ormod o wastraff byth a beunydd ac mae gennych fin 180 litr safonol, gallwch ofyn i'w gyfnewid am fin mwy 240 litr. Ond rhaid i chi fodloni'r amgylchiadau canlynol:

  • Rydych yn deulu mawr gyda chwech neu fwy o bobl yn byw yn yr eiddo
  • Rydych yn deulu gyda dau o blant neu fwy mewn cewynnau/clytiau
  • Rydych yn breswylydd sy'n cynhyrchu gwastraff clinigol nad yw'n heintus (megis sachau colostomi ac yn y blaen)

Hefyd gallwch chi brynu sachau porffor ychwanegol am £59.90 am rolyn o 26. Mae hyn yn talu am y costau casglu ychwanegol.

Cael bin, sach neu flwch newydd Cael bin, sach neu flwch newydd