Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwybodaeth am wastraff plastig

Beth yw ffilm blastig?

Mae deunyddiau sydd wedi'u gwneud o blastig hyblyg megis bagiau siopa, papur swigod, bagiau llysiau a bwyd, cling ffilm, pecynnau creision, papur lapio cylchgronau ac ati i gyd yn fathau o  ffilm blastig. (PDF) [490KB].  Mae'r holl eitemau y gellir ac na ellir eu hailgylchu yn y blwch coch ailgylchu ar gyfer deunyddiau plastig a chaniau wedi'u rhestru yn y daflen

 

Pam nad ydych yn casglu ffilm blastig i'w ailgylchu mwyach?

Dim ond mewn hyn a hyn o leoedd gallwn ni werthu ffilm blastig. Mae tynnu ffilm oddi ar boteli, potiau, tybiau a dysglau yn ddrud iawn. Pe baech chi'n tynnu ffilm o wastraff ailgylchu byddai hynny'n ein helpu i gael cymaint o incwm ag y gallwn o'r holl ddefnyddiau rydym yn eu casglu. Byddai hyn yn ei dro'n lleihau costau i drethdalwyr yn yr amserau ariannol anodd hyn.

Mae casglu ffilm blastig yn golygu bod rhaid i ni dalu cwmnïau eraill i fynd â'n plastig a thynnu'r ffilm ymaith cyn ei hanfon i gael ei hailgylchu. Mae prosesu defnyddiau gan gynnwys ffilm blastig yn costio'r cyngor hyd at £300,000 bob blwyddyn yn dibynnu ar amodau'r farchnad sydd ohoni.

 

Beth ddylwn ei wneud gydag eitemau â ffilm blastig arnynt?

Gallwch chi ailddefnyddio bagiau plastig ac arbed arian gan eu bod bellach yn costio pum ceiniog i'w prynu. Mae rhai archfarchnadoedd yn casglu bagiau sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer ailgylchu.

Ni ddylech roi pethau sy'n cynnwys ffilm blastig yn eich blwch coch ar gyfer ailgylchu caniau a phlastig. Gallwch chi ailgylchu'r ffilm blastig sy'n ymestyn (polythene) dim ond trwy fannau ailgylchu bagiau siopa mewn archfarchnadoedd mwy neu yn ein prif Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.  Gallwch chi ddarllen rhagor o wybodaeth am hyn am Recycle Now

 

Ga' i roi potiau planhigion yn fy mlwch coch?

Na chwech. Yn anffodus nid yw potiau plastig i blanhigion yn un o'r plastigau y gallwn fynd â fe o garreg y drws. Dylech eu hailddefnyddio lle bo modd neu eu rhoi yn eich bin du ar olwynion, neu yn eich sachau porffor.

 

Ar hyn o bryd rwy'n casglu fy mocsys a fy nysglau plastig mewn bag yn y gegin ac yna'n rhoi'r bag yn fy mlwch coch i'w gasglu. Ydy hyn yn iawn?

Nac ydy. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi pethau plastig yn y blwch coch yn rhydd. Wrth roi'r bag i mewn rydych yn halogi a difwyno'r gwastraff. Pe baech chi'n defnyddio'r rhwyd ar ben y blwch ni ddylai darnau plastig bychain chwythu allan o'r blwch. Os oes angen rhwyd newydd arnoch neu flwch coch ychwanegol ar gyfer plastig, ewch i: Cael bin, sach neu flwch newydd gofyn am finiau neu fagiau newydd ar ein gwefan, neu ffoniwch 0345 602 7035.

 

Alla' i ailgylchu ffoil?

Ni allwn ailgylchu cydau plastig/ffoil sgleiniog megis y rhai hynny a ddefnyddir ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes, neu ffilm blastig sgleiniog megis pacedi creision a phapur lapio bisgedi. Fe allwn ailgylchu ffoil alwminiwm ond nid y mathau plastig.

Un ffordd dda o weld y gwahaniaeth ydy'r "prawf crensian". Bydd ffoil Alwminiwm yn creinsio mewn pelen ac yn aros felly ond bydd pethau fel pacedi creision a wnaed o blastig yn neidio yn ôl, fyddan nhw ddim yn aros ar ffurf wedi'i greinsio.

 

Beth fyddai'n digwydd pe bawn yn rhoi rhywbeth yn y blwch ailgylchu na ddylai fod yna?

Os ydych yn rhoi rhywbeth yn eich blwch ailgylchu na ddylai fod yna, megis pecyn creision (ni allwn ailgylchu'r rhain), byddwn yn ei adael yn y blwch gyda nodyn yn egluro pam nad ydym wedi mynd â fe. Wedyn byddwch chi'n gwybod beth i'w wneud y tro nesaf.

 

Pam nad yw'r cyngor wedi gwagio fy mlwch ailgylchu caniau a phlastig?

Ni fyddwn yn gwagio blychau sy'n cynnwys ffilm blastig. Byddwn yn eu gadael ar garreg y drws er mwyn i chi dynnu'r ffilm blastig ymaith a rhoi'r pethau cywir allan i ni eu casglu'r tro nesaf y down ni o gwmpas. Fe adawn ni daflen fer sy'n dangos pa eitemau y gellir eu hailgylchu a pha rai na ellir mo'u hailgylchu yn y blwch plastig a chaniau. Hefyd fe adawn ni nodyn yn egluro pam ry'n ni heb fynd â'r pethau.

Os yw'ch blwch yn llawn yn barod gyda phethau y gellir eu hailgylchu, gallwch chi fynd ag eitemau ychwanegol i'w hailgylchu i safle ailgylchu cymunedol neu ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref. Hefyd, gallwch chi ofyn am flychau ychwanegol. Dylech roi eitemau â ffilm blastig nad ydym yn eu casglu yn eich bin du ar olwynion neu'ch sachau porffor.

 

Pam ddylwn i ailgylchu? Clywais fod y cyfan yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi

Rydym yn anfon popeth rydych yn ei roi allan i'w ailgylchu bob wythnos i ganolfannau ailgylchu. Yr unig eitemau byddwn yn cael gwared â nhw fydd pethau a all halogi a llygru. Yn 2015/16 llwyddodd Cyngor Sir Powys i ailgylchu 59 y cant o'i wastraff.

 

Felly, fyddwn ni'n cael gwasanaeth llai na'r hyn a fuodd yn y gorffennol?

Rydym yn casglu llawer mwy nag y buom yn y gorffennol. Yn ôl yn 2005 buom yn casglu un math o wastraff o bob cartref unwaith yr wythnos.

Erbyn hyn rydym yn casglu'r canlynol:

  • Blychau plastig a chaniau, papur a cherdyn a gwydr bob wythnos
  • Cadi gwastraff bwyd o ymyl y ffordd bob wythnos
  • Yn ogystal â'r ysbwriel dros ben na ellir mo'i ailgylchu yn eich bin du ar olwynion, neu'ch sachau porffor bob yn dair wythnos.

 

Ga' i fin mwy i gadw fy ysbwriel?

Efallai y caiff rhai cartrefi fin mwy o faint, megis teulu mawr gyda chwech o bobl neu fwy.

Mae teuluoedd gyda dau o blant neu fwy mewn cewynnau'n gallu cael bin mawr ar olwynion (240 litr).

Caiff cartrefi gyda bin olwyn llai (120 litr) wneud cais am fin olwyn safonol (180 litr) trwy gysylltu â'r cyngor.

Gofyn am finiau neu fagiau newydd Cael bin, sach neu flwch newydd 

 

Sut ydw i'n gofyn am fwy o flychau ailgylchu?

Os gwelwch chi'n aml nad oes digon o le yn eich blychau ailgylchu ar gyfer eich holl wastraff - oherwydd bod gennych deulu mawr efallai - gallwch chi ofyn am fwy o flychau ailgylchu. Ewch i 'Gofyn am finiau neu fagiau ar ein gwefan'. Gofyn am finiau neu fagiau 

 

Pam fod ffilm blastig o ffermydd yn gallu cael ei ailgylchu, ond nid felly o gartrefi?

Rydym yn codi pris ar ffermwyr am gael gwared â ffilm amaethyddol ac yn ei hanfon i gwmnïau arbenigol.

 

Mae cynghorau eraill yn casglu eu holl wastraff ailgylchu o un bin a'i ddidoli mewn canolfan, sydd i weld yn ffordd well na'r cyhoedd yn ei wneud?

Mae glasbrint (cyfarwyddyd) Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu'n datgan mai'r hyn sydd orau ganddynt yw gwahanu gwastraff ailgylchu gartref. Dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o roi'r budd gorau i economi Cymru. O ganlyniad i ddidoli gwahanol fathau o wastraff oddi wrth ei gilydd cawn ailgylchu o safon uchel. Mae hyn yn arbed costau ac yn arwain at ddeilliannau cynaliadwy gwell. Mabwysiadon ni'r dull hwn o gasglu gwastraff pan gyflwynon ni'r cynllun casglu o ymyl y ffordd. Rydym wedi cyflwyno'r cynllun ledled y sir dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Rhaid i'r cyngor gyrraedd targedau statudol ac fe gewch chi ddirwyon os na wnewch chi fodloni'r targedau hyn. Oni bydd yn anoddach cyrraedd eich targedau os byddwch yn ailgylchu fel hyn?

Mae pob targed cenedlaethol ac Ewropeaidd yn seiliedig ar bwysau'r gwastraff. Mae hyn yn golygu bod ffilm blastig yn elfen fach o'r gwastraff cyfan rydym yn ei gasglu o gartrefi. O achos hynny mae'n cael effaith fach iawn ar faint rydym yn gallu ailgylchu.

 

Oni ddylai'r cyngor geisio dylanwadu ar archfarchnadoedd a chwmnïau post sothach i leihau faint o ffilm maent yn ei defnyddio, ac felly'n atal y broblem yn y lle cyntaf?

Mae hon yn fwy o rôl i Lywodraeth Cymru sydd wedi cymryd camau megis cyflwyno pris pum ceiniog am fagiau cario. Rydym wedi gweld lleihad o 71 y cant (rhwng 2011 a 2014) mewn nifer y bagiau sy'n cael eu defnyddio unwaith yn unig. Am fwy ar hyn ewch i: https://gov.wales/topics/environmentcountryside/epq/waste_recycling/substance/carrierbags/?skip=1&lang=cy

 

Pam nad yw'r cyngor yn ailgylchu mwy o ddefnyddiau wrth ochr y ffordd?

Rydym yn ymroddedig i roi'r gwasanaeth mwyaf effeithlon a chost effeithiol i'n preswylwyr. Fel rhan o hyn, rhaid i ni ystyried pa ddefnyddiau sy'n cynnig y gwerth gorau o ran casglu. Trwy ein gwasanaeth rydym yn ailgylchu hyd at 70 y cant o'r gwastraff y mae cartrefi'n ei gynhyrchu'n nodweddiadol.  Er y gallem ailgylchu defnyddiau ychwanegol fel ffilm blastig byddai'n costio llawer ac ychydig bach o fudd byddwn yn ei gael ohono, felly byddai'n wastraffus.

Wrth gynhyrchu pethau megis pecynnau creision mae'r cynhyrchwyr yn aml yn defnyddio llawer o ddefnyddiau gwahanol. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd dros ben cael hyd i ganolfannau prosesu sy'n gallu ailgylchu'r cynnyrch hwn yn effeithlon a chost effeithiol.

Dim ond hyn a hyn o wahanol fathau o ddefnyddiau y gallwn eu rhoi yn ein cerbydau ailgylchu. Mae ganddynt adrannau ar wahân ar gyfer plastig a chaniau, papur a cherdyn, gwydr a gwastraff bwyd. Dyma'r gwastraff y mae cartrefi yn ei ailgylchu fwyaf. Gallwch chi ailgylchu defnyddiau eraill megis toriadau gwair, brethyn, a phethau cardfwrdd mawr mewn safleoedd ailgylchu cymunedol. Gallwch chi fynd ag eitemau mwy megis peiriannau golchi, dodrefn a bylbiau ynni isel neu fylbiau fflworoleuol (fluorescent) a theiars ceir i ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref.

 

Pam nad oes gennyf flwch ailgylchu coch ar gyfer plastig a chaniau?

Mae gan rai cartrefi flwch ailgylchu lliw gwahanol ar gyfer plastig a chaniau a roddwyd i chi gan ddarparwr blaenorol. Pan ddaeth y cyngor yn gyfrifol am gasglu ailgylchu yn yr ardaloedd hyn, rhoddwyd sticer coch ar ochr y blwch sy'n rhoi'r un wybodaeth â'r hyn sydd ar flychau cochion Powys. Erbyn hyn rydym wedi newid yr hen flychau lliw gwahanol i ein blychau cochion ni.