Toglo gwelededd dewislen symudol

Oes angen help arnoch chi gyda Chyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan?

Gofyn am gyngor ar arian Cais am Gyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan

Rydym yn cynnig cyngor a chymorth am ddim a chyfrinachol i chi.

Mae ein tîm hyfforddedig ac achrededig yn gallu cynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth i chi am arian un ai dros y ffôn neu apwyntiad personol yn eich cartref neu yn swyddfa lleol y cyngor, neu yn y gymuned i'ch helpu chi gyda:

  • Sut i wneud yn fawr o'ch incwm.
  • Budd-daliadau lles; helpu i wneud cais am fudd-daliadau, grantiau lles, cyngor ar eich hawliau a chymorth parhaus
  • Helpu i reoli eich costau tanwydd a sut orau i wresogi eich cartref
  • Helpu i reoli eich dyledion.
  • Trafod eich opsiynau gyda'r ddyled newydd Lle i Anadlu, all roi amser gwerthfawr i chi ddod o hyd i ateb effeithiol a thymor hir ar ddelio â'ch dyledion a'ch helpu chi symud ymlaen.
  • Helpu chi reoli eich cyllid trwy gyllidebu'n well.
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan a'r Adran Gwaith a Phensiynau i gynnig cymorth a chymorth arbenigol ar arian a budd-daliadau i gleifion canser a'u gofalwyr. Gwella’r Daith Ganser ym Mhowys

Newid i Gredyd Cynhwysol

Os ydych yn byw ym Mhowys ac yn derbyn Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant (a ddim yn derbyn Budd-dal Tai), byddwch yn derbyn Hysbysiad Symud Gweinyddol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) ym mis Ionawr/Chwefror 2024 ymlaen. Darllenwch fwy yma: Credyd Cynhwysol